Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Kit newydd i Gymru

Ionawr 27, 2012 14:12


Chris Coleman
Cafwyd cadarnhad bod Chris Coleman wedi penodi Kit Symons yn un o hyfforddwyr Cymru.

Mi chwaraeodd Symons 37 o weithiau dros Gymru, ac roedd yn gyd-chwaraewr gyda Coleman yn Fulham.

Tra mae disgwyl I Osian Roberts barhau yn aelod o’r tîm hyfforddi, nid yw Coleman wedi siarad gyda chynorthwy-ydd Gary Speed, Raymond Verheijen.

Mae Symons wedi bod yn gweithio gyda chwaraewyr ifanc academi Fulham.

“Mae’n gwneud gwaith gwych gyda Fulham ar hyn o bryd, gyda’u tîm dan 18,” meddai Coleman. “Maen nhw ar frig eu cynghrair, ac mae ganddyn nhw ddipyn o feddwl ohono yn Fulham.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.