Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Wrecsam yn cadw Creighton

Chwefror 3, 2012 14:38


Mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell yn parhau i adeiladu ei dîm wrth i Mark Creighton arwyddo cytundeb estynedig, ac mae Glen Little wedi arwyddo tan ddiwedd y tymor.

‘‘Rwyf wrth fy modd yn clymu fy nyfodol i’r clwb yma.  Mae wedi bod yn broses hir, er nad oedd unrhyw fai ar neb yn benodol,’’ meddai Creighton.

Gyda Neil Ashton, Jay Harris a Joslain Mayebi eisioes wedi arwyddo cytundebau newydd, mae’n newyddion da iawn I’r clwb.

Mae Mark Creighton yn amddiffynnwr a chwaraeodd gyda Kidderminster ac Oxford United gynt, cyn ymuno gyda’r Dreigiau yn 2010. Bellach mae wedi chwarae dros 50 o gemau i Wrecsam a sgorio gôls yn y gemau diweddar.

‘‘Mae’r clwb yn cael blwyddyn wych.  Wedi dweud hynny, pe bawn yn edrych nôl ar y sefyllfa y pum mis diwethaf, byddwn ni byth wedi dychmygu’r holl lwyddiant,’’ meddai Creighton.

Yn ymuno ag ef mae Glen Little wedi arwyddo cytundeb i aros gyda’r Dreigiau tan ddiwedd y tymor.

‘‘Yn ychwanegol, mae’n newyddion da i’r clwb,’’ meddai’r rheolwr Andy Morrell.

‘‘Mae ein cefnogwyr yn gwybod pa mor bwysig y bu Mark ers iddo gyrraedd yma, felly i gael gafael arno am ddwy flynedd ychwanegol, mae hynny’n wych.  Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi datrys cytundeb Glen, oherwydd bydd ei brofiad yn y gêm yn hanfodol i ni wrth gyrraedd y cyfnod allweddol yma o’r tymor,’’ ychwanegodd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.