Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Abertawe v West Brom

Chwefror 3, 2012 14:59


Ar ôl y siom o gêm gyfartal yn erbyn Chelsea ddydd Mawrth yn Stadiwm y Liberty, bydd Abertawe yn ceisio anghofio am yr hunllef o ildio gôl hwyr a chanolbwyntio ar herio West Brom yfory.

Mae’r Elyrch yn safle rhif 14, a West Brom yn 15.

Yr wythnos hon mewn gêm i’r ail dîm yn erbyn Arsenal fe gafodd Ferrie Bodde ei anafu.

Mae’r chwaraewr canol cae wedi hedfan gartref i’r Iseldiroedd i ymgynghori â llawfeddyg am yr anaf a dioddefodd i’w ben-glin.

‘‘Ar hyn o bryd, gwelwn bod ei ben-glin wedi chwyddo.  Bydd rhaid i ni aros iddo wella gyntaf cyn i’r llawfeddyg ddweud wrthym beth yn hollol sydd o’i le,’’ meddai Kate Rees sy’n bennaeth ffisiotherapydd i glwb Abertawe.

Hefyd mae chwaraewr canol cae Abertawe Andrea Orlandi wedi ei anafu ac allan am chwe wythnos.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.