Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Disgwyl cyhoeddiad am dîm rygbi Cymru prynhawn ma

Chwefror 9, 2012 11:37


Warren Gatland
Mae disgwyl i Warren Gatland enwi’r tîm fydd yn wynebu’r Alban ddydd Sul y prynhawn yma.

Yn ol adroddiadau ar safle Wales Online fe fydd Sam Warburton yn chwarae Ddydd Sul, ond ni fydd Justin Tipuric  ar gael oherwydd anaf i’w ffêr.

Roedd Tipuric, blaen asgellwr y Gweilch, wedi troi ei ffêr yn Nulyn.

Mae’r capten Sam Warburton wedi bod yn cael triniaeth i’w goes, yn dilyn anaf yn erbyn Iwerddon yng ngêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ryan Jones i gymryd lle Bradley Davies?

Disgwylir i Ryan Jones gymryd lle Bradley Davies yn yr ail reng, yn dilyn gwaharddiad Davies ddoe am ei dacl anghyfreithlon ar Donnacha Ryan yn y gêm yn erbyn Iwerddon.

Bydd Gatland hefyd angen penderfynu pwy fydd yn chwarae fel prop pen rhydd.

Mae ganddo’r dewis o Rhys Gill, a oedd yn addawol iawn yn erbyn y Gwyddelod, neu ei Lew Prydeinig Gethin Jenkins, sydd wedi gwella o’i anaf.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.