Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Sgarlets yn croesawu Treviso

Chwefror 22, 2012 13:54


Bydd y Sgarlets yn anelu at ymestyn eu record o ennill chwe gêm gynghrair yn olynol ar Barc y Scarlets pan fyddan nhw’n croesawu Treviso nos Iau.

Mae’r Sgarlets yn croesawu nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn ôl i’r rhanbarth gyda phedwar aelod o garfan Cymru yn cymryd eu lle ar y fainc – yr asgellwr Liam Williams, yr ail-reng Lou Reed, y prop Rhodri Jones, ac Aaron Shingler y blaenasgellwr a gafodd gêm gyntaf addawol i Gymru yn erbyn yr Alban ond a ildiodd ei le yn y tîm rhyngwladol wrth i’r capten Sam Warburton ddychwelyd o anaf.

Dyma’r tîm llawn, â’r gic gyntaf am 7:35yh nos Iau:

15 Dan Newton, 14 Lee Williams, 13 Gareth Maule (capten), 12 Adam Warren, 11 Andy Fenby, 10 Aled Thomas, 9 Gareth Davies, 8 Kieran Murphy, 7 Johnathan Edwards, 6 Josh Turnbull, 5 Damian Welch, 4 Dominic Day, 3 Deacon Manu, 2 Emyr Phillips, 1 Phil John

Eilyddion: 16 Craig Hawkins, 17 Rhodri Jones, 18 Peter Edwards, 19 Lou Reed, 20 Aaron Shingler, 21 Liam Davies, 22 Nick Reynolds, 23 Liam Williams.

Yn nhîm Treviso bydd yr ail-reng Enrico Pavanello yn ennill cap rhif 216, gan ddod yn un o ddeg chwaraewr â’r nifer uchaf o gapiau i Treviso erioed. Mae dyletswyddau rhyngwladol ac anafiadau wedi bod yn fwrn ar garfan Treviso, gyda 15 chwaraewr yn eisiau.

Dyma dîm yr Eidalwyr:

15 Ludovico Nitoglia, 14 Benjamin De Jager, 13 Tommaso Iannone, 12 Andrea Pratichetti, 11 Brendan Williams, 10 Willem De Waal, 9 Simon Picone, 8 Marco Filippucci, 7 Gonzalo Padrò, 6 Manoa Vosawai, 5 Valerio Bernabò, 4 Enrico Pavanello, 3 Pedro Di Santo, 2 Franco Sbaraglini (captain), 1 Ignacio Fernandez Rouyet

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.