Tom Daley yn cystadlu yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain
Mae’r deifiwr Tom Daley wedi dweud na all “fod yn hapusach” ar ôl cyhoeddi ei fod yn hoyw.

Postiodd y gŵr 19 oed, a enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, fideo ar YouTube yn datgelu’r newyddion, gan ddweud ei fod bellach mewn perthynas gyda dyn arall.

“Dwi erioed wedi cael perthynas o bwys o’r blaen,” meddai Daley yn y fideo. “Nawr, dwi’n teimlo’n barod i siarad am y berthynas.

“Erbyn gwanwyn y flwyddyn hon, fe newidiodd fy mywyd yn llwyr pan wnes i gyfarfod rhywun wnaeth fy ngwneud i deimlo mor hapus, mor ddiogel, ac mae popeth yn teimlo’n wych. Ac mae’r person hwnnw’n ddyn.”

Bu farw tad Daley, Rob, ym mis Mai 2011 ar ôl brwydro yn erbyn canser yr ymennydd, ac fe ddywedodd Tom Daley y byddai ei dad wedi ei gefnogi wrth iddo wneud y cyhoeddiad.

“Bydd pobl yn meddwl ‘Beth fyddai dy dad wedi dweud?’ ond roedd e wastad yn dweud wrtha’ i ‘Cyn belled â dy fod ti’n hapus, dwi’n hapus’.”

Dywedodd ei fod wedi postio’r fideo i’w gyfrif YouTube oherwydd nad oedd eisiau i unrhyw un allu trosi ei eiriau, ac fe ddywedodd fod pethau wedi “clicio” i’w lle gyda’i berthynas newydd.

“Wrth gwrs mod i dal yn ffansïo merched,” meddai. “Ond ar hyn o bryd dwi’n canlyn dyn ac alla’i ddim bod yn hapusach.”

Dywedodd Daley yn y fideo, a bostiodd i’w 2.4miliwn o ddilynwyr ar Twitter, bod yr awch i gystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf yn Rio de Janeiro yn 2016 yn parhau, a’i fod yn anelu am fedal aur.