Y tair gymnastwraig gyda'u medalau (llun: Chwaraeon Cymru)
Roedd Francesca Jones wedi cyffroi gymaint ar ôl ennill medal gyntaf erioed Tîm Cymru mewn gymnasteg rythmig nes iddi ebychu: “Does dim cacen, mae’r cyfan yn eisin.”

Roedd Francesca Jones yn cystadlu yn ei thrydedd Gemau yng Glasgow, ac fe fydd hi, a gweddill y tîm Laura Halford a Nikara Jenkins, yn mynd adref â’r fedal arian.

Aeth y fedal aur i’r tîm o Ganada gyda sgôr cyfanswm o 141.450. Sgôr Cymru oedd 136.625 gan eu rhoi yn yr ail safle – o flaen Malaysia gafodd drydydd. .