Geraint Thomas (llun o wefan Sky)
Mae Geraint Thomas wedi ailarwyddo gyda thîm seiclo Sky am ddwy flynedd arall, ar ôl iddo orffen yn 22ain yn y Tour de France eleni.

Mae’r Cymro wedi bod yn rhan bwysig o’r tîm ers ymuno yn 2010 ac fe fydd nawr yn aros gyda Sky, o dan arweiniad Syr Dave Brailsford, nes diwedd 2016.

Ei safle yn y Tour eleni oedd ei berfformiad gorau yn y ras, a hynny ar ôl iddo ymdrechu i helpu Richie Porte a gafodd ei ddewis fel arweinydd y tîm yn dilyn anaf Chris Froome.

Wrth arwyddo am ddwy flynedd arall fe ddywedodd Thomas, fydd yn cystadlu i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yr wythnos hon, ei fod yn credu mai Sky yw’r lle gorau i wireddu ei botensial fel beiciwr.

Clod gan Brailsford

Ac fe awgrymodd Dave Brailsford fod gallu’r beiciwr 28 oed mewn nifer o wahanol elfennau yn rhan bwysig o’u hawydd i’w gadw.

“Ar ac oddi ar y beic mae Geraint yn aelod dylanwadol o dîm Sky,” meddai David Brailsford.

“Nid yn unig y mae e’n gymeriad cryf ond mae’n un o’r llond llaw o feicwyr o’r safon uchaf yn y byd sy’n medru gwneud popeth, boed hynny yn dringo, ar y fflat, coblau neu’r treialon amser, sydd yn profi pa mor werthfawr ydi o i’r tîm.

“Dros y tair wythnos diwethaf ar y Tour de France mae Geraint wedi tanlinellu’i allu unwaith eto ac wedi dangos ei fod yn feiciwr gwych gyda dyfodol disglair.”