Mae Syr Bradley Wiggins wedi dweud bod gan y Cymro Geraint Thomas y gallu i ennill y Tour de France.

Enillodd Wiggins y ras fawreddog yn 2012 ac mae yn yr un tîm seiclo â  Geraint Thomas, sef Sky.

Wrth ganmol y Cymro mae hefyd wedi mynnu bod angen iddo ganolbwyntio ar arbenigo ar un math penodol o rasio beic.

‘‘Fe all ennill unrhyw ras feic y mae’n cymryd rhan ynddi gan gynnwys y Tour de France.  Mae ganddo dalent aruthrol ac mae’n berson penderfynol,’’ meddai Wiggins.

Y seiclwr 28 oed o Gaerdydd yw’r unig Gymro i ennill aur yng Ngemau’r Gymanwlad pan gipiodd y fedal mewn ras arbennig yn Glasgow eleni.

Mae Geraint Thomas yn cytuno gyda dadansoddiad Wiggins.

‘‘Yn sicr mae’n rhoi hyder i chi pan mae rhywun fel Bradley yn eich canmol.  Mae’n bryd i mi ddewis un math o ras bellach, a mynd amdani,’’ meddai Thomas.