Geraint Thomas
Mae’r Cymry Geraint Thomas a Luke Rowe wedi cael eu cynnwys yn nhîm Sky ar gyfer Taith Santos yn Awstralia’n ddiweddarach y mis yma.

Maen nhw wedi eu henwi mewn carfan o saith ar gyfer y ras sy’n para chwe niwrnod rhwng Ionawr 20 a 25.

Ian Stannard o Loegr, Peter Kennaugh o Ynys Manaw, Salvatore Puccio o’r Eidal, a Chris Sutton a Richie Porte o Awstralia yw’r pump aelod arall yn y garfan.

Cafodd Geraint Thomas ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf.

Enilodd fedal aur ar y ffordd yn Glasgow, a medal efydd ar y trac.