Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Chaz Davies yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Rhagfyr 12, 2011 20:30, Diweddarwyd Rhagfyr 13, 2011 08:23


Chaz Davies
Mae Chaz Davies wedi cael ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2011 yn dilyn canlyniadau pleidlais gyhoeddus.

Cafodd  y canlyniad ei ddatgelu ar deledu, radio a gwasanaethau ar-lein BBC Cymru heno.

Cyhoeddwyd y wobr yn seremoni wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2011, gafodd ei chynnal yn Stadiwm Liberty, Abertawe, yn gynharach heno, i ddathlu’r flwyddyn ddiwethaf ym myd Chwaraeon Cymru.

Gwireddwyd potensial aruthrol Chaz, y gyrrwr beiciau modur, yn 2011 wrth iddo ennill Pencampwriaeth y Byd Supersport.  Ac yntau bellach yn 24 oed, ef oedd y Cymro cyntaf i ennill teitl dosbarth Superbike y byd. Enillodd goron y bencampwriaeth gyfan yn y gyfres 12 gêm yn ras olaf ond un y tymor yn Magny Cours, Ffrainc.  Mae’r pencampwr Supersport hefyd yn un o gyn enillwyr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru.

Gwobrwywyd tîm y flwyddyn yn y digwyddiad hefyd, a rhoddwyd gwobr Cyfraniad Oes a gwobrau Chwaraewr Ifanc a Chwaraewraig Ifanc y flwyddyn Carwyn James.

Dyma enillwyr y prif wobrau:
Tîm y Flwyddyn: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
1       Gwobr Cyfraniad Oes: Anne Ellis OBE
2       Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Rhys Pugh
3       Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Angel Romaeo

Tîm y Flwyddyn: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Dan Brendan Rodgers, Dinas Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, a dychwelyd i’r lefel uchaf eleni dim ond wyth mlynedd ar ôl osgoi disgyn o’r Gynghrair Bêl-droed.

Cyflawniad Oes: Anne Ellis OBE
Mae un o hoelion wyth y byd hoci i fenywod, Anne Ellis, o Abertawe yn wreiddiol, wedi ymwneud â chwaraeon ar y lefel uchaf am bron i 50 mlynedd, fel chwaraewr hoci, hyfforddwr a gweinyddwr. Mae’n dal i helpu yn ei chlwb lleol bob penwythnos.

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Rhys Pugh
Fe wnaeth Rhys Pugh, y golffiwr o Gymro 17 oed o Bontypridd, ennill Pencampwriaeth Amatur Iwerddon ac ennill pob un o’i dair gêm yng ngemau buddugoliaethus Cwpan Walker eleni.  Mae bellach yn astudio ym Mhrifysgol East Tennessee State.

Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Angel Romaeo
Fe wnaeth y gymnast Angel Romaeo ennill medal aur, arian ac efydd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Ynys Manaw fis Medi.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Rhagfyr 13, 2011 12:18 pm

Pwy ? .
Mae’n hurt. Mae’r BBC yn boddi ni gyda rygbi hyn, Shane llall, a wedyn etholir rhyw Dai do-do .

§| Nodi camddefnydd

Jones , Rhagfyr 13, 2011 12:42 pm

Oherwydd mai Rygbi sydd yn boblogaidd.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.