Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Ail Gymro yn nhîm seiclo Sky

Ionawr 4, 2012 15:14


Mae tîm seiclo Sky wedi cyhoeddi bod ail Gymro wedi ymuno â’u carfan ar gyfer y tymor seiclo newydd.

Bydd Luke Rowe o Gaerdydd yn ymuno â Geraint Thomas yn y tîm Prydeinig ar gyfer 2012.

Mae’n rhan o garfan o 28 a gafodd ei chyhoeddi gan Sky heddiw – un arall o’r enwau newydd yn y garfan yw personoliaeth chwaraeon Prydeinig y BBC ar gyfer 2011, Mark Cavendish.

Daeth Rowe i sylw yn ras ffordd Gemau’r Gymanwlad yn 2010, gan orffen yn y nawfed safle.

Mae’n ymuno â thîm Sky ar gytundeb dwy flynedd o hyd.

Carfan lawn Sky ar gyfer 2012:

Davide Appollonio, Michael Barry, Edvald Boasson Hagen, Mark Cavendish, Alex Dowsett, Bernhard Eisel, Juan Antonio Flecha, Chris Froome, Mathew Hayman, Sergio Henao, Jeremy Hunt, Peter Kennaugh, Christian Knees, Thomas Löfkvist, Lars-Petter Nordhaug, Danny Pate, Richie Porte, Salvatore Puccio, Michael Rogers, Luke Rowe, Ian Stannard, Kanstantsin Siutsou, Chris Sutton, Ben Swift, Geraint Thomas, Rigoberto Urán, Bradley Wiggins and Xabier Zandio

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Tommie Collins , Ionawr 4, 2012 4:47 pm

Carfan gref iawn – enwau cyfarwydd â rhai talentog ifanc. Os fydd Luke Rowe hanner mor dda â Geraint felly edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Bechod bod y gemau Olympaidd yn cael eu cynnal, dw i’n sicr bydd Geraint wedi disgleirio.

§| Nodi camddefnydd

Owain Schiavone , Ionawr 5, 2012 11:15 am

Ydy Rowe yn debygol o fod yn ddigon da i gyrraedd carfan y Tour de France eleni?

§| Nodi camddefnydd

Tommie Collins , Ionawr 5, 2012 11:41 am

cwestiwn da owain- mi fydd yn cael amserlen a cynllun am y fisoedd i ddod. Dwi meddwl na dewis mwy agos i’r amser wneith nhw. Fy marn i – mae’n rhy gynnar.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.