Mae’r chwaraewr amryddawn o India’r Gorllewin, Darren Sammy wedi arwyddo cytundeb byr i chwarae dros Forgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Bydd Sammy, sydd wedi cynrychioli ei wlad 38 o weithiau mewn gemau prawf, 111 o weithiau mewn gemau undydd 50 pelawd a 52 o weithiau mewn gemau 20 pelawd, ar gael tan bod y T20 yn dechrau yn y Caribî.

Cafodd ei enwi’n gapten ei wlad yn 2010, gan arwain India’r Gorllewin i fuddugoliaeth yng Nghwpan T20 y Byd ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae’n parhau’n gapten y tîm ugain pelawd.

Mae’n ail-ymuno â Toby Radford, hyfforddwr Morgannwg fu’n rhan o dîm hyfforddi India’r Gorllewin gynt.

Dywedodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae sgiliau Darren gyda’r bat a’r bêl wedi plesio tyrfaoedd o gwmpas y byd mewn cystadlaethau T20 yn y blynyddoedd diwethaf felly rydyn ni wrth ein bodd i’w groesawu i Forgannwg.

“Mae Darren yn cyrraedd yn syth o’r Sunrisers Hyderabad yn Uwch Gynghrair India y bu’n gapten arnyn nhw ac fe fydd cefnogwyr Morgannwg yn cael y cyfle i weld y chwaraewr amryddawn yn arddangos ei sgiliau wrth iddo ymuno â ni cyn y gêm gartref gyntaf nos Wener yn erbyn Siarcod Sussex.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Mae Darren yn chwaraewr T20 o’r radd flaenaf ac yn ychwanegiad gwych i’n hystafell newid gan ei fod yn brofiadol ar y lefel uchaf.

“Roedd Darren yn arweinydd ar y cae ac oddi ar y cae yn ystod fy nyddiau gydag India’r Gorllewin felly fe fydd yn wych cael gweithio gydag e eto ym Morgannwg.”

Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 6.30pm nos Wener yn Stadiwm Swalec.