Phil Hughes, fu farw'r llynedd
Mae cricedwr o Awstralia wedi cael ei daro’n anymwybodol gan ergyd debyg i’r un a arweiniodd at farwolaeth ei gydwladwr, Phil Hughes fis Tachwedd y llynedd.

Cafodd Daniel Hughes – sydd ddim yn perthyn i’r diweddar Phil Hughes – ei daro yn ei wddf tra’n batio mewn gornest rhwng Northern District a Blacktown yn Sydney.

Roedd yn ceisio bachu bownsar oddi ar y bowliwr Cameron Nupier ond cafodd ei daro o dan ei helmed.

Cafodd Hughes ei gludo i’r ysbyty am brofion ond cafodd ei ryddhau’n ddiweddarach.

Roedd Hughes wedi chwarae criced ieuenctid gyda Phil Hughes.