Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Morgannwg am chwarae dan enw Cymru

Medi 18, 2011 11:02


Mark Wallace - balch o chwarae tros Gymru (o wefan y sir)
Fe fydd clwb criced Morgannwg yn chwarae dan enw Cymru mewn cystadlaethau un diwrnod y tymor nesa’.

Fe gyhoeddodd y sir mai Dreigiau Cymru – Welsh Dragons – fydd eu henwau yn y cystadlaethau 20 pelawd a 40 pelawd yn 2012.

Ac mae’r clwb yn dechrau ar sioeau teithiol o amgylch y wlad wrth iddyn nhw geisio denu chwaraewyr a chefnogwyr newydd.

“Mae pob chwaraewr yn gwybod, ym Morgannwg, ei fod yn cynrychioli Cymru gyfan, yn ogystal â’r sir,” meddai’r capten newydd, Mark Wallace, sy’n hanu o’r Fenni.

“R’yn ni’n teimlo’r balchder a’r anrhydedd yna ym mhob peth yr ’yn ni’n ei wneud.”

Eisiau denu chwaraewyr Cymreig

Morgannwg yw’r unig sir ddosbarth cynta’ o Gymru ac mae chwaraewyr proffesiynol Cymreig yn gorfod chwarae dan enw Lloegr ar y meysydd rhyngwladol.

Yn awr, mae’r sir yn anelu at yr un math o apêl ag sydd gan glwb pêl-droed Barcelona yng Nghatalunya – yn cael ei weld yn fath o dîm cenedlaethol.

“R’yn ni eisiau i bob chwaraewr criced talentog o Gymru fod yn dyheu am chwarae i Forgannwg,” meddai Mark Wallace.

“Mewn rhai fel James Harris, Will Owen a Gareth Rees, mae gyda ni eisoes nifer o chwaraewyr talentog sydd wedi eu meithrin yma yn gwneud argraff yn y tîm.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Medi 18, 2011 11:46 am

Teimladau cymysg yma. Gwlad yw Cymru, ac nid ydym eisiau rhoi’r argraff fod yr enw ‘Cymru’ gywerth a siroedd/rhanbarthau Lloegr.

§

Adrian Price , Medi 22, 2011 1:03 pm

Mae angen ein tim cenedlaethol rhyngwladol ein hunain i chwarae yn erbyn Lloegr, Awstralia, India, a’u tebyg ac i gystadlu yng Nghwpan y Byd. Mae’n warthus bod Cymru’n rhan o Loegr mewn criced rhyngwladol!

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.