Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



“Newyddion gwych” i griced Cymru

Medi 23, 2011 10:18


Bydd Cyfres y Lludw – gornest griced enwog rhwng Lloegr ac Awstralia – yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2015.

Roedd swyddogion Clwb Criced Morgannwg wedi bod yn aros yn eiddgar ers tua chew mis i gael clywed y newyddion gwych bod un o’r gemau i’w cynnal yng Nghaerdydd.

Cafodd coffrau’r clwb o Gymru eu chwyddo’n sylweddol pan ymwelodd Cyfres y Lludw â Stadiwm Swalec yn 2009, a’r gobaith yw elwa unwaith yn rhagor.

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi wynebu anhawsterau ariannol yn ddiweddar.

 Cheryl am griced

 Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ffan pybyr o griced, ac yn credu y bydd ymweliad Cyfres y Lludw â’r de yn hwb i’r economi.

 “Dyma newyddion gwych sy’n cydnabod pa mor llwyddiannus wnaeth Caerdydd wrth gynnal gêm brawf y Lludw yn 2009,” meddai Cheryl Gillan.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Gwilym Prydderch , Medi 30, 2011 1:09 am

Haleliwia. Felly mae Lloegr yn dewis chwarae gêm yng Nghaerdydd yn newyddion gwych i griced “Cymru” ydy? Ym mha ffordd? Tasa peldroedwyr Lloegr yn penderfynu chwarae eu gemau cartref yn ein prifddinas, a fasai disgwyl inni orfoleddu?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.