Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Llythyr ‘nawddoglyd’ yn wfftio tîm criced i Gymru

Medi 24, 2011 10:56


Stadiwm Swalec
Mae croeso i Gymru gael ei dim criced ei hun – ond ni fyddai Stadiwm Swalec yn cynnal unrhyw gemau o bwys yn y dyfodol agos.

Dyna fygythiad David Collier, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, mewn llythyr at yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards.

Roedd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi ysgrifennu at y bwrdd gan ddweud y dylai Cymru gael ei thîm ei hun, yn yr un modd ag Iwerddon a’r Alban.

“Er mwyn gallu cystadlu mewn cystadlaethau criced rhyngwladol, byddai yn rhaid i Gymru wneud cais i’r Cyngor Criced Rhyngwladol,” meddai David Collier wrth ymateb.

“Fe fyddai Cymru yn aelod atodol ac ar ôl amser yn aelod cysylltiol. Dim ond aelodau o’r Cyngor Criced Rhyngwladol sy’n cael cymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngwladol.

“Ni fyddai Lloegr yn cael chwarae gemau criced yng Nghymru ac felly fe fyddai Stadiwm Swalec yn cynnal gemau Cymru yn erbyn gwledydd amrywiol gan gynnwys Papua Guinea Newydd, yr Almaen, Nepal a Namibia.

“Rydw i’n ymwybodol fod Clwb Criced Morgannwg yn awyddus iawn i barhau yn aelod o Fwrdd Criced Lloegr a pharhau i gynnal gemau Lloegr yn erbyn gwledydd blaenllaw yn Stadiwm Swalec.”

Ddoe cyhoeddwyd y bydd Stadiwm Swalec yn cynnal un o gemau Cyfres y Lludw yn 2015.

‘Nawddoglyd’

Dywedodd Jonathan Edwards wrth bapur newydd y Western Mail fod llythyr David Collier yn “nawddoglyd” a “thrahaus”.

“Mae’n un o’r bobol bwysicaf ym myd criced ac roeddwn i wedi synnu ei fod mor barod i wfftio gwledydd sy’n datblygu eu criced ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’n bryd cydnabod fod Bwrdd Criced Lloegr yn cynrychioli dwy wlad ac fe ddylai allu cyflwyno timoedd Cymru a Lloegr.

“Fe fyddai cystadlu yn hwb i griced yn ein gwlad ac yn hwb economaidd hefyd. Fe fyddai gêm yn erbyn India er enghraifft yn cael ei wylio gan dros biliwn o bobol yn un o economïau pwysicaf y byd.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Medi 24, 2011 11:34 am

Mae David Collier yn hollol gywir, yn ol rheolau’r ICC. Er mwyn cael tim criced rhyngwladol llawn i i Gymru, buasai’n rhaid i Morgannwg adael y bencampwriaeth. Dyna pam, yn anffodus, mae’r chwaraewyr yn erbyn y syniad. Ni all neb wasanaethu dau feistr . Mae Cymru’n naill ai rhan o gyfundrefn Lloegr, neu gyda chyfundrefn hollol annibynnol ei hunan . Mae’r ICC gyda rheoliadau caeth iawn ar y safon mewnol sydd angen ei gyrraedd cyn i dim rhyngwladol gael ei gydnabod.
Buaswn o blaid aberthu tim proffesiynol Morgannwg, a’r stadiwm, er mwyn Cymru, ond mae’n anodd meddwl am unrhyw un o ddylanwad a statws fuasai’n meddwl fel hynny.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.