Abertawe 4–0 Sunderland
Enillodd Abertawe gartref ar y Liberty am y tro cyntaf yn y gynghrair y tymor hwn, a hynny mewn steil wrth drechu Sunderland o 4-0.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe agorodd y llifddorau yn yr ail gyfnod. Sgoriodd Phil Bardsley i’w rwyd ei hun toc cyn yr awr cyn i Jonathan De Guzman ddyblu’r fantais o fewn munud. Ychwanegodd Wilfred Bony y drydedd o’r smotyn yn fuan wedyn cyn i Chico Flores benio’r bedwaredd ddeg munud o’r diwedd.
Roedd hi’n gêm ddigon agos yn yr hanner cyntaf ond roedd yr Elyrch yn dîm gwell wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl agoriadol dri munud cyn yr awr, a phan ddaeth y gyntaf, fe ddilynodd dwy arall o fewn saith munud.
Gwyrodd amddiffynnwr Sunderland, Bardsley, gic gornel Angel Rangel i’w rwyd ei hun i ddechrau cyn i De Guzman ddyblu’r fantais gydag ergyd wych o ugain llath a mwy.
Rhwydodd Bony y drydedd o’r smotyn yn dilyn trosedd Craig Gardner ar Leon Britton ac yna fe gwblhaodd Chico y sgorio pan beniodd gic gornel De Guzman i gefn y rhwyd gyda deg munud yn weddill.
Canlyniad da iawn i Abertawe felly a chanlyniad sydd yn eu codi dros Gaerdydd i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi’r gêm:
“Roedd hi’n fuddugoliaeth bwysig iawn i ni, yn fuddugoliaeth gartref gyntaf yn yr Uwch Gynghrair ers tro. Roeddem yn gwybod y byddai hi’n anodd ond fe wnaethom yn dda, yn enwedig yn yr ail hanner.”
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel, Davies (Taylor 51′), Britton, Chico, Amat, Dyer, De Guzmán, Bony (Alvaro 75′), Michu, Routledge (Pozuelo 81′)
Goliau: Bardsley [g.e.h.] 57’, De Guzman 58’, Bony [c.o.s] 64’, Chico 80’
Cardiau Melyn: Chico 45’
.
Sunderland
Tîm: Westwood, Celustka, Bardsley, Cattermole, O’Shea, Roberge, Larsson, Gardner, Fletcher (Altidore 82′), Giaccherini (Colback 61′), Johnson (Borini 61′)
Cardiau Melyn: Bardsley 10’, Roberge 43’
.
Torf: 20,245