Huw Jenkins a Michael Laudrup
Mae Abertawe wedi cyhoeddi heno fod eu rheolwr, Michael Laudrup, wedi gadael y clwb.

Bydd yr amddiffynnwr canol, Gary Monk, yn cymryd yr awenau am y tro, ochr yn ochr â’r hyfforddwr Alan Curtis.

Roedd sïon ers peth amser fod y berthynas rhwng y rheolwr, a’r cadeirydd Huw Jenkins wedi dirywio’n fawr yn ddiweddar.

Er hynny, bydd cyflymder y newyddion yn sioc i’r rhan fwyaf.

“Roeddem yn gyndyn o wneud y penderfyniad” meddai Huw Jenkins.

“Ond mae’n benderfyniad sydd er lles Clwb Pêl-droed Abertawe ac ein cefnogwyr.”

“Dyma’r tro cyntaf mewn bron i 10 mlynedd i’r clwb wahanu â rheolwr yn y modd yma, ond roedd rhaid i ni ddisodli’r ansicrwydd cyson ynghylch â’r clwb a dyfodol hirdymor Michael gyda ni.

“Cefais gyfarfod gyda Michael heddiw mewn ymdrech olaf i’w gefnogi a sefydlu ffordd o wella gwaith y tîm cefnogol er mwyn sicrhau’r canlyniadau rydym angen dros y 14 gêm Uwch Gynghrair sy’n weddill.”

“Ond, ar ôl meddwl yn hir ac yn galed am y ffordd orau ymlaen, roeddwn yn teimlo ei bod yn annhebygol y gallem ni gyrraedd awyrgylch sefydlog yn y clwb a fyddai’n dod a ni nôl at y pethau syml fyddai’n cynhyrchu’r lefelau perfformiad sydd wedi sicrhau llwyddiant i Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf.”

Dywedodd y cadeirydd, sydd wedi arwain Abertawe o waelodion cynghrair Lloegr i uchelfannau Uwch Gynghrair Lloegr ei fod yn gobeithio bod hwn yn gyfle i uno’r clwb.

“Mae angen i ni roi’r ansicrwydd yma i’r neilltu nawr a symud  ymlaen mewn undeb ym mhob ffordd, gan achub ar y cyfle i ddiolch i Michael am y gwaith mae wedi gwneud dros y 18 mis diwethaf, a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.

Ychwanegodd Huw Jenkins ei fod yn gobeithio bydd y cefnogwyr yn gallu deall pa mor anodd mae’r cyfnod diweddar wedyn bod, gan eu hannog i roi pob cefnogaeth i Gary Monk, y staff a’r chwaraewyr.