Laudrup wedi cael y sac
Cafodd Michael Laudrup ei ddiswyddo gan Abertawe neithiwr, llai na blwyddyn ar ôl ennill Cwpan Capital One gyda’r clwb.

Un o hoelion wyth y clwb  ar y cae,  Garry Monk, sydd wedi ei benodi fel rheolwr dros dro ochr yn ochr â’r hyfforddwr Alan Curtis.

Dyw’r bwcis ddim yn cymryd arian ar swydd rheolwr Abertawe ar hyn o bryd, gan ddisgwyl y bydd Monk yno nes diwedd y tymor o leiaf – ond pwy arall a fyddai’n gallu rheoli’r Elyrch?

Mae golwg360 wedi mynd ati i edrych ar ambell opsiwn ond beth yw eich barn chi a phwy fyddech chi’n hoff o’i weld yn Abertawe? Pleidleisiwch a gadewch eich sylwadau isod.

GARRY MONK: Y dyn yn y sedd dros dro, wedi’i gynorthwyo gan Alan Curtis. Mae’r amddiffynnwr profiadol yn anghyfarwydd â’r swydd o reoli, ond mae wrthi’n cwblhau ei fathodynnau fel hyfforddwr ac fel capten y clwb mae ganddo barch enfawr yn Abertawe.

GRAHAM JONES: Mae wedi gweithio gydag Abertawe yng nghyfnod Roberto Martinez, a fo oedd y ffefryn i gael y swydd pan adawodd y Sbaenwr am Wigan. Ond penderfynodd Graham Jones ddilyn ei fos i ogledd orllewin Lloegr ac mae wedi aros gydag o yn Everton hefyd. Mae’n ffafrio’r steil o chwarae sydyn mae Abertawe’n ei hoffi.

DENNIS BERGKAMP: Mae Abertawe’n ceisio penodi rheolwyr i chwarae ‘eu ffordd nhw’ a byddai Bergkamp yn ffitio hynny’n berffaith. Ar hyn o bryd ar y staff hyfforddi yn Ajax, ond mae wedi chwarae arddull pasio trwy gydol ei yrfa. Mae’n siŵr y bydd Bergkamp eisiau swydd reoli fawr rhyw ddydd, ond a’i dyma’r amser?

MARCELO BIELSA: Un o arloeswyr yr arddull pasio sy’n nodweddiadol o Abertawe. Mae’n adnabyddus i rai o gefnogwyr yr Uwch Gynghrair ar ôl i’w dîm Athletic Bilbao drechu Man U yng Nghynghrair Ewropa. Mae’r gŵr o’r Ariannin yn 58 mlwydd oed a does ganddo ddim clwb ar hyn o bryd.

STEVE CLARKE: Mae’r Sais yn ddi-waith ar hyn o bryd ar ôl gadael West Brom, ble arweiniodd y clwb i’w safle uchaf erioed (8fed) yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf. Wedi dysgu gan y gorau hefyd fel is-hyfforddwr i Jose Mourinho yn Chelsea.

MARCEL DESAILLY:  Dyw cyn gapten Ffrainc ddim yn ffefryn ond roedd yn gysylltiedig â’r swydd pan gafodd Laudrup y swydd yn 2012. Er bod ganddo wybodaeth o Uwch Gynghrair Lloegr oherwydd ei amser yn Chelsea, byddai’n gambl a does ganddo ddim profiad rheoli.

MARK HUGHES: Yn dilyn arwain Stoke i fuddugoliaeth yn erbyn Man U wythnos diwethaf – sydd ddim yn gamp mor arbennig â hynny erbyn hyn, wedi meddwl – a fyddai’r Cymro yn hoff o ddychwelyd i ‘w famwlad? Mae wedi bod yn rheoli Stoke ers mis Mai ac maen nhw un safle uwchben Abertawe yn y tabl ar hyn o bryd.

JOHN TOSHACK: Fe wnaeth Toshack ymddiswyddo fel rheolwr Khazar Lankaran o Uwch Gynghrair Azerbaijan ym mis Tachwedd – amser iddo ddychwelyd i Gymru ac i glwb sy’n agos at ei galon ar ddiwedd ei yrfa? Cylch cyflawn, fel petai?