Tim a Rhys Hartley allan ym Mrasil
Rhys Hartley sydd yn blogio o’i wythnos gyntaf ym Mrasil yn gwylio Cwpan y Byd …

Roedd yna deimlad sbeshal o’r foment i ni gyrraedd giât ein ffleit i Lisbon. Pedwar Sgotyn yn gwisgo crysau o wledydd gwahanol; Saeson yn trafod pa gemau yr oedd ganddyn nhw docynnau iddyn nhw; a fi a’n nhad yn pinsio’n hunain am ein bod ni ar ein ffordd i Gwpan y Byd.

Ym maes awyr Lisbon, roedd cangen arbennig ar gyfer ffleits i Brazil ac roedd pobl o bedwar ban Ewrop wedi ymgynnull yn y sawl bar oedd ar gael – fe wnaethon ni hyd yn oed gwrdd â dau foi o Ynys Môn oedd ar eu ffordd i Rio ar gyfer yr awyrgylch, heb yr un tocyn.

Yn wir, mae gan Gwpan y Byd ryw fath o hud a lledrith sy’n swyno cefnogwyr pêl-droed ledled y byd.

Cyrraedd Recife

Ro’n ni ar y ffordd i Recife, yng ngogledd y wlad am y ddwy noson gyntaf ac fe gawsom groeso cynnes wrth lanio yn y maes awyr. Bu modelau enfawr o Pelé a menyw mewn gwisg draddodiadol Brasiliaidd yn dawnsio i gerddoriaeth band traddodiadol. Roedden ni wedi cyrraedd.

Yn y ddinas ei hun, roedd pawb i weld yn dioddef o ‘haint’ Cwpan y Byd. Er ei bod hi’n hwyr y nos, roedd y sgwâr wrth ein gwesty yn llawn teuluoedd a chyplau yn gwisgo’u crysau melyn. Aeth un dyn i’r drafferth o beintio ei Volkswagen Beetle gyda baner Brasil!

Cawsom sgwrs sydyn gyda’r brodorion ond roedd hi’n ddigon i wybod bod y bobl yn edrych ymlaen at y twrnament yn Recife, er gwaetha’r protestiadau yn Sao Paulo a Rio.

Fe dreulion ni ein diwrnod llawn cyntaf (dydd Mercher) yn edrych ar olygfeydd Recife. Ro’n ni wedi cael cip ar y traeth y noson gynt ond doedd yr arwydd ‘Byddwch yn ofalus o’r siarcod’ ddim yn apelio lot, heb sôn am y cawodydd a fu drwy’r dydd.

Eto, yn y ddinas, roedd pawb yn gwisgo’u lliwiau a hynny er bod dros 24 awr tan y gic gyntaf. Fe lwyddom i ladd digonedd o amser, wedi gwneud y stwff twristaidd, yn chwilio trwy’r crysau pêl-droed a fu ym mhob siop ac yn ceisio esbonio ble oedd Cymru. Mae’r enw Gareth Bale wedi canu cloch bob tro!

Teithio i Natal

Ein gem gyntaf ni oedd Mecsico yn erbyn Cameroon yn Natal, pedwar awr i’r gogledd o Recife, felly penderfynom yrru yno – wel, Dad yn gyrru a fi’n gweiddi arno pan roedd angen gadael y draffordd.

Wrth godi’r car, cawsom gyfle i siarad â’r Mecsicaniaid a oedd yn bwriadu gwneud yr un daith â ni. Roedd pawb yn groesawgar ac mewn hwyliau da, yn edrych ymlaen at y gêm y prynhawn canlynol. Yn anffodus i ni, doedd gan y cwmni llogi ceir ddim yr un brwdfrydedd ac roeddem dros awr a hanner yn hwyr yn gadael.

Cyrhaeddom Natal ar hanner amser y gêm agoriadol, diolch i sawl camgymeriad tua diwedd y daith. Roedd hi’n amhosib peidio gwybod y sgôr, gan fod pawb ym mhob pentref o gwmpas set deledu yn eu crysau melyn gyda thân gwyllt yn cael eu tanio ar ôl pob gôl i Frasil.

Roeddem ni’n aros mewn maestref ar lan y môr, fel rhyw resort twristaidd. Er gwaetha diffyg Saesneg y brodorion, llwyddom i ffeindio’r strip ar hyd y traeth lle’r oedd pob bar yn llawn dop gyda Brasiliaid yn dathlu neu Mecsicaniaid yn twymo’u lleisiau ar gyfer eu gêm gyntaf y diwrnod wedyn.


Band Mariachi Mecsicanaidd
Wedi’r siwrne y cawsom ni, ro’n ni’n haeddu sawl cwrw ac, wrth gwrs, ro’n ni wedyn moyn ymuno gyda’r band ‘Mariachi’ Mecsicanaidd ar y promenâd. Cwrddom â’n ffrind, Ade, un o ffyddloniaid Cymru ac mi roedd ei ymwybyddiaeth leol yn help mawr wrth i ni symud o far i far gan weld Mecsicaniad gwahanol yn mwynhau.

Llifogydd diwrnod y gêm

Deffrais am bedwar y bore gan y glaw yn taranu ar y llawr tu fas. Llwyddais i fynd nôl i gysgu ond erbyn daeth yr amser i ni adael doedd hi dal heb stopio.

Roedd y strydoedd yn llifo ac roedd pawb yn socian o fewn munud i gamu tu fas. Ffeindiais nad oedd fy nghôt Cymru yn dal dŵr yn dda ac roedden ni yn yr un cwch, bron yn llythrennol, â phawb arall.

Mae’n amlwg wrth deithio i’r stadiwm yn Natal, nad aeth popeth i gynllun wrth ei adeiladu. Roedd yr orsaf bws rhyw ugain munud ar droed o’r stadiwm ac roedd yn rhaid ceisio osgoi’r llifogydd drwy gamu’n ara’ deg ar hyd wal y brif heol.

Tu fas i’r stadiwm, doedd dim help i’w gael ac fe aethom ni’r ffordd anghywir. I gyrraedd yn ôl at ein mynedfa, roedd yn rhaid osgoi’r mwd, tywod a briciau a oedd wedi’u lledaenu ar draws y llawr. Roedd y ciw yn enfawr, hefyd.

Ond, unwaith yr oeddem tu fewn, fe newidiodd popeth. Ro’n ni wedi cyrraedd Cwpan y Byd. Yn naturiol, Mecsicaniaid oedd rhan fwya’r dorf ac fe lwyddon nhw i greu awyrgylch fythgofiadwy.

Yn canu eu caneuon traddodiadol ac yn gweiddi rhegfeydd fel un, roedd eu hundod i’w edmygu. Falle cawn ni’r un profiad gyda Chymru rhyw ddydd … falle.

Enillodd Mecsico o 1-0, ar ôl cael dwy gôl berffaith heb eu caniatáu ymysg honiadau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau twrnament lwyddiannus i Frasil, sydd yn yr un grŵp.

Er gwaetha’r tywydd, doedd brwdfrydedd neb wedi’i effeithio, gyda’r dathlu yn parhau drwy’r llifogydd ac ar y bws yn ôl i ardal y gwesty.

Roedd yna daith hir yn ôl o’n blaenau ni, er mwyn gallu cyrraedd gêm Siapan yn erbyn Cote d’Ivoire y noson ganlynol. Ffeindiodd Ade rhyw foi o Awstralia oedd angen lifft ac aeth y pedwar ohonom yn ôl i Recife.

Diolch byth fod ein gêm ni am un o’r gloch ac nad oedd gêm i ni eisiau ei weld ar y teledu (ro’n ni wedi hepgor gwylio Sbaen v yr Iseldiroedd) achos roedd y siwrne nôl yn ddi-ben-draw.

Roedd y glaw yn dal i gwympo ac roedd yr heddlu ar bob cyffordd tu fas i Natal yn gwneud dim i helpu’r dagfa.

Olinda odidog

Ta beth, cyrhaeddom ardal Olinda, prif ddinas yr ardal cyn Recife. Mae hi’n dref hyfryd ar lan y môr ac fe gawsom gyfle i ymweld â’r eglwysi hanesyddol yn y bore.

Roedd yna deimlad swreal i’r dref am fod o leia’ hanner cant o fyfyrwyr drama wedi gwisgo fel clowniaid yn ein cyfarch ar bob cornel, ac oherwydd nad oedd arwydd o fywyd ar hyd y traeth.

Yn amlwg, roedd y lle yn denu twristiaid a bu bysus yn llawn ymwelwyr o Siapan yno, yn gwneud y stwff twristaidd cyn y gêm.

I ni, fel pawb gartre dwi’n siŵr, roedd gwylio gêm Lloegr yn erbyn Yr Eidal yn bwysig. Penderfynom gwrdd ag Ade, wedi i ni ollwng y car, a ffeindio ardal tua’r stadiwm i wylio’r hanner cyntaf.

Cote d’Ivoire v Siapan

Yn anffodus, doedd y tiwb ddim cweit beth ro’n i wedi arfer ‘da yn Llundain a chyrhaeddom far lleol gyda dim ond pum munud yn weddill o hanner cyntaf gêm Lloegr. Penderfynom y byddai’n well i ddal y bys o ‘na i’r stadiwm i wylio’r gweddill.

Fel yn Natal, roedd yr orsaf fysiau o leia’ deng munud i ffwrdd o’r stadiwm ac, eto, roedd y ciw am gymryd o leia’ hanner awr.

Yn ddigon ffodus i ni, roedd hi’n system eithaf anarchaidd gyda sawl un yn cael mynediad drwy’r giât anabl a phedwar ciw yn dod yn un fel gwddf potel. Roedd unrhyw beth yn well na sefyll yn y glaw trwm felly manteision ni ar y cyfle.


Cefnogwyr Cote d'Ivoire
Er i ni gael cadarnhad y byddai’r sgriniau tu fewn yn dangos gêm Lloegr dim ond un oedd ar gael a hynny drwy ffens wydr yn yr ardal letygarwch.

Roedd tua chant ohonom wedi ymgynnull wrth y ffens i drio cael golwg o’r gêm ond fe dreulion ni’r rhan fwyaf ohono yn siarad ag Americanwyr.

Chware teg, ro’n nhw’n gwybod eu stwff am bêl-droed, yn dweud eu bod yn deffro yn gynnar bob wythnos i wylio gemau’r Uwch Gynghrair.

Mae pêl-droed yn fawr yno, medde nhw,  gydag un ddinas bellach yn denu mwy i’r tîm pêl-droed na’r tîm pêl-fas. Roedd ein rhagfarn ni wedi ei newid, yn siŵr!

Roedd cost y tocynnau yma yn fwy na’r rhai diwethaf, felly ro’n ni mewn sioc i weld bod ein seddi mewn ardal lot pellach o’r cae. Gyda’r dorf yn tueddu tua Siapan fe benderfynom drio sefyll gyda chefnogwyr Cote d’Ivoire yn yr ail hanner, wedi iddyn nhw beidio â stopio canu drwy gydol yr hanner cyntaf er eu bod ar ei hôl hi o 1-0.

Yr Eliffantod a’r Elyrch

Llwyddom i wneud ein ffordd i lawr ac o amgylch y stadiwm at ffyddloniaid yr Eliffantod (ffugenw’r tîm). Roedd y diffyg stiwardio yn bleser ar un llaw, yn lot gwell na’r tensiynau sy’n cael eu creu yn anorfod yng ngemau proffesiynol gartre’ ond, ar y llaw arall, roedd hi’n creu system annheg o ran prisio.

Ro’n ni’n ffodus yn yr ail hanner wrth i Cote d’Ivoire sgorio ddwywaith i wyrdroi’r sgôr gyda’u cefnogwyr yn dathlu. I Dad, roedd e’n poeni ei fod yn edrych fel cefnogwr Abertawe gan i ni godi baner Cymru ar ôl y gôl gyntaf dim ond i ffeindio mae Bony sgoriodd!

Daeth Drogba ‘mlaen ac roedd hi’n bleser ei wylio yn ennill bob peniad, yn defnyddio’i gryfder i droi ei ddyn ac yn chwarae rôl ym mhob ymosodiad ei wlad.

Gyda dim arwydd o’r glaw yn peidio bu’n rhaid i ni wneud y daith yn ôl i’r ddinas ac yna i’r maes awyr.

Eto, doedd y glaw ddim o ots i ni am fod iaith ryngwladol y gêm hardd wedi sicrhau sgyrsiau digon diddorol ar y bws â’r trên. Ac eto, mae’n rhaid diolch i Gareth Bale am greu byd sympathetig dros Gymru.

Ymlaen at Salvador, felly, gyda dim cwsg ond ein gêm fwyaf ni ar y gorwel – Yr Almaen yn erbyn Portiwgal. Mae’r tywydd yn addo gwella ond dy’n ni wedi profi bod fawr o ots.


Cefnogwyr yr Almaen a Phortiwgal yn Salvador
Bydd Rhys Hartley’n parhau i flogio i golwg360 o Gwpan y Byd yn ystod yr wythnosau nesaf. Cafodd y blog hwn ei ysgrifennu cyn gêm yr Almaen v Portiwgal ddoe.