Mae ymgais tîm merched Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yng Nghanada’r flwyddyn nesaf ar ben ar ôl iddyn nhw golli 1-0 yn yr Wcráin.

Roedd angen i Gymru ennill y gêm a gobeithio bod Ffrainc yn curo’r Ffindir er mwyn cipio lle yn y gemau ail gyfle.

Ond bu gôl gan Tetyana Romanenko ar ôl 61 munud yn ddigon i gipio’r pwyntiau i’r tîm cartref, a dod ag ymgyrch Cymru i ben.

Mae’n debyg mai’r golled prynhawn yma fydd gêm olaf Jarmo Matikaninen fel rheolwr y tîm, ar ôl i’r gŵr o’r Ffindir ddweud y byddai’n gadael y swydd ar ddiwedd yr ymgyrch.

Y gred yw bod cyn-chwaraewyr Cymru Andy Legg a Jayne Ludlow ar restr fer y Gymdeithas Bêl-droed i fod yn rheolwr nesaf ar y tîm.

Matikainen oedd y rheolwr cyntaf llawn amser ar dîm merched cenedlaethol Cymru, ac roedd hefyd yn gyfrifol am rai o’r timau ieuenctid.