Iolo Cheung
Yr un hen stori eto oedd hi i Gymru’r wythnos hon, wrth i Coleman gyhoeddi’i garfan ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol dyngedfennol nesaf.

Yn hytrach nac edrych am y seren annisgwyl yn y garfan, neu pwy oedd wedi chwarae’n ddigon da i haeddu’u lle, roedd y sylw i gyd unwaith eto ar bwy sydd ddim ar gael oherwydd anaf.

Aaron Ramsey a Joe Allen y tro hwn, ein dau brif chwaraewr canol cae – oh ia, a David Vaughan ac Andrew Crofts, dau y byddech chi wedi disgwyl i gymryd eu lle.

Fe ddylai Lee Evans, chwaraewr ifanc canol cae Wolves sydd rŵan wedi cael ei ddewis, fod wedi cael llawer mwy o sylw gan mai dyma yw’r tro cyntaf y mae wedi’i alw i’r garfan.

Yn hytrach, heddiw mae’r penawdau’n ei drafod ef – a hynny oherwydd iddo yntau ddioddef anaf neithiwr wrth chwarae i’w glwb.

Dydi Coleman ddim hyd yn oed yn swnio’n rhwystredig bellach pan mae’r newyddiadurwyr yn gofyn iddo am sefyllfa’r anafiadau ym mhob carfan – mae o wedi hen arfer bellach.

Ond er gwaethaf yr absenoldebau, fe ddylai Cymru dal fod yn hyderus o allu cael canlyniadau yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus yr wythnos nesaf.

Gwell colli Rambo a Joe

Gan obeithio fod y marciau cwestiwn dros ffitrwydd Jonathan Williams ac Emyr Huws yn diflannu, dylai fod gan Gymru dal ddigon o opsiynau yng nghanol cae.

Chwith ydi dweud hyn, ond os oes rhaid cael absenoldeb o’r tîm oherwydd anaf, gwell gen i weld Ramsey ac Allen allan na chwaraewyr fel Gareth Bale, Ashley Williams a hyd yn oed Wayne Hennessey.

Y gwir plaen ydi bod gennym ni ddyfnder da yng nghanol cae – er gwaethaf y pedwar sydd ar goll (pump os ydi Evans allan hefyd), fe fydd gan Coleman ddewis o Huws, Joniesta, Joe Ledley ac Andy King ar gyfer ei dri safle yng nghanol cae.

Ychwanegwch Dave Edwards i’r gymysgedd (a Jack Collison, sydd ddim yn ffit ar hyn o bryd) ac mae gan Coleman ddewis da o chwaraewyr.

Petai Bale, Ashley Williams neu Hennessey allan fe fyddai’n llawer anoddach dewis chwaraewyr o gystal safon i gymryd eu lle.

Panig Bosnia

Bydd absenoldeb Allen a Ramsey mwyaf tebyg yn golygu colli meddiant yng nghanol cae – ond fydd hynny ddim o reidrwydd yn beth gwael yn erbyn Bosnia.

Fe fues i’n cadw llygad arnyn nhw yng Nghwpan y Byd, ac roedden nhw’n ddigon hyblyg wrth chwarae’n drefnus ac amddiffynnol yn erbyn yr Ariannin cyn ymosod yn fwy pwrpasol yn erbyn Nigeria.

Fe fyddwn nhw’n ymosod yn erbyn Cymru hefyd yr wythnos nesaf, gyda’u hyfforddwr Safet Susic eisoes yn awgrymu y gallai ddewis trydydd ymosodwr i chwarae ochr yn ochr â Dzeko ac Ibisevic.

Felly mi all Cymru fanteisio ar hynny, ac eistedd yn ôl gyda chwaraewyr canol cae mwy amddiffynnol i farcio Pjanic cyn defnyddio cyflymder Bale a’r ddau Williams fach i wrthymosod.

Dyna’n union wnaeth Nigeria, a chipio buddugoliaeth annisgwyl o 1-0 gan gymryd mantais o amddiffyn araf Bosnia.

Does dim rheswm i feddwl fod amddiffyn Bosnia unrhyw gwell bellach chwaith – fe ymddeolodd eu capten 34 oed Emir Spahic ar ôl Cwpan y Byd, cyn cael ei alw nôl ar gyfer y gêm hon oherwydd y trychineb yn erbyn Cyprus.

Pedwar pwynt?

Felly er bod gan Fosnia ymosodwyr peryglus all frifo Cymru, mae gennym ni rai digon galluog all gymryd mantais o’u gwendidau nhw hefyd.

Cyprus? Iawn, fe synnon nhw Bosnia, ond fe ddylen nhw fod wedi colli’r gêm yn hawdd petai’r Bosniaid wedi cymryd eu cyfleoedd, ac fe fydd Cymru dal yn ffefrynnau clir yn erbyn tîm sydd dim ond newydd neidio i 85fed yn y byd.

Dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf mae Cymru wedi colli, ac roedd hwnnw yn erbyn yr Iseldiroedd wnaeth yn wych yng Nghwpan y Byd.

Digon o reswm felly i fod yn obeithiol y gallwn ni gipio o leiaf pedwar pwynt yn erbyn Bosnia a Chyprus.