Northampton 3 – 0 Casnewydd

Ar ôl colli o 4 – 0 yn erbyn Caergrawnt wythnos yn ôl, doedd ildio un yn llai yn erbyn Northampton yn fawr o gysur i Gasnewydd heddiw.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o ddwy gôl erbyn yr hanner diolch i goliau Cresswell ac O’Toole, cyn i D’Ath selio’r fuddugoliaeth gydag wyth munud yn weddill.

Mae’r canlyniad siomedig yn golygu bod Casnewydd yn llithro i’r chweched safle yn yr Ail Adran, ond maen nhw’n cadw ei lle yn y safleoedd ail gyfle ar hyn o bryd.

Casnewydd: Day, Jackson, Feely, Jones, Yakubu, Chapman, Howe, Zebroski, Sandell (C), Jeffers, Byrne

Eilyddion: Stephens, Porter, Minshull, O’Connor, Flynn, Klukowski, Parker