Chris Coleman
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod carfan Cymru i gyd wedi cyfarfod bellach wrth iddyn nhw baratoi am gêm ragbrofol fawr yn erbyn Israel – a bod pawb yn ffit.

Roedd seren y tîm Gareth Bale ymysg y rheiny gyrhaeddodd Caerdydd i ymuno â’r garfan neithiwr, ac fe fyddan nhw nawr yn ymarfer am ychydig ddyddiau cyn hedfan  i Israel ddydd Iau.

Bydd y gêm dydd Sadwrn yn dyngedfennol wrth benderfynu pwy fydd yn gorffen ar frig Grŵp B yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016, gydag Israel yn gyntaf ar naw pwynt a Chymru’n ail ar wyth.

Cyfle i wrando: Pod Pêl-droed Golwg360 – Israel v Cymru

Plesio Coleman

Fe fydd y newyddion hynny’n siŵr o blesio rheolwr Cymru Chris Coleman, a ddywedodd wrth gyhoeddi’r garfan wythnos diwethaf ei fod erioed wedi cael cyfnod rhyngwladol ble nad oedd anafiadau’r wythnos cyn y gêm.

Fe allai Coleman dderbyn hwb ychwanegol yn dilyn sôn y gallai’r chwaraewr canol cae Jonny Williams, sydd wedi bod yn ymarfer gyda Crystal Palace ers rhai wythnosau, fod yn ffit i gael ei alw fyny.

Yr unig chwaraewyr eraill sydd ddim yn y garfan yw James Chester, Paul Dummett, George Williams ac Emyr Huws, pob un ohonynt allan gydag anafiadau hir dymor.

Fe enwodd Israel eu carfan dros y penwythnos ac mae’n cynnwys rhai enwau fydd yn gyfarwydd i gefnogwyr Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys cyn-ymosodwr Abertawe Itay Shechter a’r amddiffynnwr Tal Ben Haim.

Mae prif seren tîm Israel, y chwaraewr canol cae Eran Zahavi, hefyd wedi ei gynnwys ond does dim lle i Yossi Benayoun na Gil Vermouth, sydd wedi anafu.

Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Daniel Ward (Lerpwl)

Ashley Williams (Abertawe), James Collins (West Ham United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Samuel Ricketts (Wolves), Ashley Richards (Abertawe), Adam Henley (Blackburn Rovers)

Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest), David Edwards (Wolves), Shaun MacDonald (Bournemouth)

David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Sam Vokes (Burnley)

Carfan Israel: Ofir Marciano (FC Ashdod), Ariel Harush (Maccabi Netanya), Guy Haimov (Hapoel Kiryat Shmona), Eli Dasa (Beitar Jerusalem) Oded Elkayam (Hapoel Kiryat Shmona ), Tal Ben Haim (Charlton Athletic ), Rami Gershon (KAA Gent), Omeri Ben Harush (Maccabi Tel-Aviv), Eytan Tibi (Maccabi Tel-Aviv), Taleb Tawatha (Maccabi Haifa), Sheran Yeini (Maccabi Tel-Aviv), Nir Biton (Celtic), Bebras Natcho (PFC CSKA Moskva), Eran Zahavi (Maccabi Tel-Aviv FC), Beram Kayal (Brighton & Hove Albion) Maor Buzaglo (Hapoel Beer Sheva), Tal Ben Haim II (Maccabi Tel-Aviv), Lior Refaelov (Club Brugge KV), Roi Kehat (Hapoel Kiryat Shmona), Omer Damari (FK Austria Wien), Tomer Hemed (UD Almería), Etey Shechter (Maccabi Haifa), Elyaniv Barda (Hapoel Beer Sheva), Munas Dabbur (Grasshopper Club), Ben Sahar (Willem II)