Mae ymosodwr yr Elyrch, James Demetriou wedi cael dirwy o £700 a rhybudd am ei ymddygiad ar ôl cyfaddef betio ar gemau.

Mae rheolau Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr yn gwahardd chwaraewyr rhag betio pe bai awgrym fod ganddyn nhw wybodaeth ymlaen llaw am y gêm dan sylw.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â gemau gafodd eu cynnal rhwng Rhagfyr 2013 a Ionawr 2015.

Mae Demetriou, sy’n hanu o Awstralia, wedi cynrychioli tîm dan 21 Cyprus.

Ymunodd â’r Elyrch o Nottingham Forest cyn dechrau tymor 2014-15, ond dydy e ddim wedi ymddangos yn nhîm cynta’r clwb.