Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Proffiliau’r Uwch Gynghrair – Y Seintiau Newydd ac Y Bala

Awst 5, 2011 12:26, Diweddarwyd Medi 8, 2011 12:00


Wythnos i heno, fe fydd gemau uwch gynghrair Cymru yn ailddechrau unwaith eto gyda’r Seintiau Newydd yn croesawu Clwb Pêl-droed y Bala i Neuadd y Parc ar gyfer  gêm gynta’r tymor.

Ar drothwy’r tymor newydd dyma gyflwyno proffiliau’r ddau glwb, gan ddiweddaru newyddion y timau a chynnwys barn y cefnogwyr am eu gobeithion ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Byddwn yn cyhoeddi proffiliau dau glwb pob diwrnod o hyn nes y gêm gyntaf nos Wener nesaf, Awst 12fed.

Y Seintiau Newydd:

Stadiwm – Neuadd y parc

Rheolwr – Mike Davies

Trosglwyddiadau Haf 2011 – Mewn – Greg Draper, Alex Ramsey, Chris Williams, Simon Spender, Jermaine Johnson, -  Allan – Sean Jones, John Mckenna, Ryan Marriott, Tommy Holmes, Simon Williams, Danny Holmes, Jamie Wood, Craig Williams, Craig Whitfield.

Barn y Cefnogwyr – Angharad ‘Haz’ Jones-

“Dwi’n meddwl bydd hi’n dymor da i’r Seintiau, wedi cryfhau’r garfan ac mae cael Steve Evans yn ôl yn yr amddiffyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r tîm. Mae hi am fod yn dymor cyffrous, a gobeithio gwnawn ni gipio’r bencampwriaeth yn ôl!”

Y Bala :

Stadiwm – Maes Tegid

Rheolwr – Colin Caton

Trosglwyddiadau Haf 2011Mewn -  Michael Byron, Peter Doran, Steffan Edwards, Lee Hunt, Stuart Jones, Liam Loughglin, Conall Murtagh

Allan – Mike Hayes, Danny Jellicoe, Shaun Kelly, Josh Mcauley, Mark Powell

Barn y Cefnogwyr – Richard Arfon Roberts (siarad ar ôl gêm gyfeillgar ym Mhorthmadog – colli 5-2)

“Roedd y gemau cyfeillgar yn mynd yn eitha’ da tan heddiw. Uchelgais  tymor yma ydy sefydlu’r clwb yn y chwech uchaf, ond mi fydd  Mike Hayes (ymosodwr a symudodd i Airbus) yn golled”.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.