Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Malcolm Allen eisiau gweld Giggs yn olynu Speed

Rhagfyr 15, 2011 10:46


Gary Speed
Mewn cyfweliad gyda Radio Cymru’r bore yma, fe fynegodd cyn ymosodwr Cymru, Malcolm Allen ei ddymuniad i weld Ryan Giggs yn cymryd yr awenau fel prif hyfforddwr Cymru.

Ychwanegodd na ddylai unrhyw benderfyniad am olynydd Gary Speed gael ei wneud gan y Gymdeithas Bel Droed tan y flwyddyn newydd a chanmolodd y modd mae’r Gymdeithas Bel Droed wedi delio â thrychineb marwolaeth Gary Speed.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf: ”Mae’n gyfnod trist ac annifyr i bawb dwi’n meddwl hefo beth sydd wedi digwydd. Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi delio hefo fo’n hollol broffesiynol ar y funud, does dim cwestiwn am hynny – oherwydd mae’n golled i ni gyd, beth sydd wedi digwydd.”

“Ond dwi’n dweud, ar ôl y Nadolig, rhyw chwe wythnos cyn y gêm nesa’ ym mis Chwefror, mae’n rhaid i ni benodi rhywun.

“Yr unig ddyn, yn fy marn i, fyddai’n ffitio mewn ac yn cario ‘mlaen hefo’r gwaith da mae Gary wedi’i wneud ydy Ryan Giggs, a gobeithio mai fo gaiff y cynnig”.

Fe gynhaliwyd cyfarfod gan benaethiaid Cymdeithas Bel Droed Cymru ddydd Llun diwethaf, ond nid oedd penodiad Prif Reolwr Cymru ar yr agenda.

Nos Sul, roedd is hyfforddwr Cymru Raymond Verheijen wedi cythruddo nifer o gefnogwyr Cymru gan Drydaru ei farn am olynydd Gary Speed.

“Fory mae’r GBD yn cwrdd i drafod dyfodol Cymru. Gobeithio bydd y bwrdd yn parchu dymuniad Gary i Osian Roberts a minnau arwain y tîm i Frasil” meddai Verheijen yn ei neges gyntaf.

“Does dim angen rheolwr newydd gyda syniadau newydd. Mae ein llwyddiant wedi’i seilio ar strwythur clir Gary. Mae pawb yn gwybod beth sydd angen ar gyfer ymgyrch Brasil 2014.”

“Fisoedd yn ôl fe eisteddodd Rheolwr Gweithrediadau Cymru Adrian Davies gyda Gary a siarad am y dyfodol. Fe ofynnodd: beth os? Felly rydan ni’n gwybod beth i wneud.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.