Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Cyfnod pryderus i gefnogwyr Wrecsam

Rhagfyr 29, 2011 16:46


Mae’n gyfnod pryderus iawn i fod yn gefnogwr Wrecsam ar hyn o bryd. 

Bydd mis Ionawr yn gyfle i dimau eraill roi cynnig ar osod porfeydd breision o flaen ein chwaraewyr a gobeithio eu harwyddo.

 Mae Lee Fowler eisioes wedi dweud ei fod am adael y clwb ym mis Ionawr gyda amryw o glybiau gyda diddordeb ynddo. Made’n nodi mai angen bod yn agosach i’w deulu yng Nghaerdydd y mae, felly Casnewydd ddylai fod yn glwb nesaf iddo.

 Ym myd y bêl droed fodern fodd bynag mae rhesymeg syml fel yna ymhell o’r gwirionedd a synnwn ddim pe bai hyd yn oed yn bellach o Gaerdydd erbyn diwedd y mis.

 Mae gennym chwaraewyr a all lenwi’r bwlch yn barod ac nid wyf am boeni yn ormodol am un chwaraewr. Yn ôl sylwenwyr gem Telford mae si bod Fleetwood am gynnig am 5 o chwaraewyr Wrecsam yn ystod y mis nesa. Efallai bod hyn ychydig ymhell o’r gwirionedd ond y mae Fleetwwod wedi gwneud hyn o’r blaen wrth adael cynghrair Y blue square Gogleddol.

 Mae si arall bod Dean Saunders am ddod a Creighton a Night Percival i Doncaster a byddai hynny yn chwalu amddiffyn gorau holl gynghreiriau Lloegr ac yn amlwg ymae hynny yn broblem fawr.

 Ar y cae fe gafom ddiwrnod arbennig dros y Nadolig gyda buddigoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Telford gyda 2000 o gefnogwyr Wrecsam yn teithio. Made Telford yn dod i’r Cae Ras ddydd calan a gobeithiaf am fuddigoliaeth debyg yn erbyn y gwrthwynebwyr. Yn lwcus hefyd bu i Fleetwood gael gêm gyfartal felly made yna ychydig o olau dydd rhyngom.

 Mae nhw wedi cryfhau gyda Danny Rose, talismon Casnewydd, rhaid gobeithio bydd eu chwaraewyr yn cymryd amser hir i setlo.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.