
Chris Coleman
Bydd Chris Coleman wedi ymddiswyddo fel rheolwr y tîm o Wlad Groeg, Larissa yr wythnos hon gan gynyddu’r dyfalu mai ef fydd yn olynu Gary Speed fel rheolwr tîm Cymru.
Ymunodd Coleman â’r clwb sy’n chwarae yn ail adran cynghrair Groeg ym mis Mai eleni, ac mae’n gorwedd yn y pedwerydd safle yn y gynghrair ar hyn o bryd.
Er hynny, mae Coleman wedi dweud wrth y BBC bod sefyllfa ariannol fregus y clwb yn golygu na fydd yn gallu aros yno.
Mae enw Coleman wedi bod yn cael ei gysylltu’n fwyfwy â swydd wag rheolwr Cymru dros y dyddiau diwethaf, a bydd y newyddion hyn yn siŵr o gynyddu’r dyfalu.
Fe ymgeisiodd Coleman am swydd Cymru yn 2010, pryd cafodd Gary Speed ei benodi.
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gêm gyfeillgar yn erbyn Costa Rica yr wythnos diwethaf, ac mae disgwyl i’r rheolwr newydd fod yn ei swydd erbyn hynny.
Dau enw arall sydd wedi cael eu crybwyll ar gyfer y swydd yw Mark Hughes a Ryan Giggs.
Er hynny, mae Mark Hughes yn ffefryn i gael ei benodi’n rheolwr newydd ar QPR tra bod Ryan Giggs yn dal i fod yn chwaraewr pwysig i Manchester United.
Gyrfa reoli gymysg
Roedd Chris Coleman yn ffefryn gyda chefnogwyr Cymru yn ystod ei yrfa fel chwaraewr – gyrfa a gafodd ei fyrhau yn dilyn damwain car difrifol.
Wedi dweud hynny, cymysg yw ei lwyddiant wedi bod fel rheolwr.
Dechreuodd ei yrfa reoli yn Fulham yn 2003 a chael peth llwyddiant yno gan orffen yn nawfed yn yr Uwch Gynghrair yn 2004.
Cafodd ei ddiswyddo o’i swydd gyda Fulham yn Ebrill 2007 ar ôl i’r tîm fynd ar rediad o saith gêm heb fuddugoliaeth.
Bu’n rheolwr ar Real Sociedad yn Sbaen am hanner tymor, cyn ymddiswyddo yn Ionawr 2008 gan ddweud nad oedd yn gallu cydweithio â llywydd newydd y clwb. Roedd y tîm yn bumed yn La Liga ar y pryd.
Cafodd ei benodi’n rheolwr ar Coventry yn y Bencampwriaeth ym mis Chwefror 2008, ond methiant oedd ei gyfnod yno a chafodd ei ddiswyddo ym Mai 2010 ar ôl i’r tîm orffen chwe safle o waelod y gynghrair.