Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Dim cadarnhad ar Coleman

Ionawr 13, 2012 12:24, Diweddarwyd am 12:25


Chris Coleman
Er gwaethaf stori yn y Daily Mail ddoe yn dweud mai Chris Coleman fydd rheolwr nesaf Cymru, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi dweud wrth Golwg360 nad ydyn nhw wedi penderfynu pwy fydd yn olynu Gary Speed yn brif hyfforddwr pêl-droed Cymru.

Ennillodd Chris Coleman 32 o gapiau dros Gymru cyn symud ymlaen i hyfforddi tîm pel-droed Fulham.

Ers hynny bu’n hyfforddwr Real Sociedad a Coventry.

Ym mis Mai 2010 fe gafodd ei ddiswyddo oherwydd rhediad gwael o ganlyniadau yn Coventry.

Yr wythnos hon roedd Coleman yn ymddiswyddo o’i swydd yn reolwr ar glwb Larissa, tîm sydd yn ail gynghrair Gwlad Groeg.

Mae’r ffaith ei fod wedi gadael ei swydd wedi golygu bod dyfalu mai’r Cymro 41 oed fydd rheolwr newydd Cymru.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.