Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Ryan Giggs yn datgan diddordeb mewn chwarae i Team GB

Ionawr 17, 2012 12:49


Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs a David Beckham ymysg 184 o 191 o chwaraewyr y mae’r Gymdeithas Bêl Droed wedi cysylltu a nhw sydd wedi dangos diddordeb mewn cael eu hystyried i chwarae dros Team GB yn y Gemau Olympaidd.

Mae Giggs ymysg nifer o Gymry i gael gwahoddiad i’r tim yn ogystal a Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ashley Williams ag Adam Mathews.

Mae chwaraewyr Caerdydd Peter Whittingam a Kenny Miller yn ogystal a Steven Caulker o Abertawe hefyd wedi cael gwahoddiad.

Dim ond saith chwaraewr o’r 191 sydd wedi dweud na allen nhw chwarae, gyda rheiny’n dod o glybiau gwahanol ar draws Prydain.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn erbyn y synaid o’i chwaraewyr yn chwarae dros dim Prydeinig, gan ofni y gall hyn fygwth ei hannibyniaeth o fewn FIFA.

Bu ymateb chwyrn gan y Gymdeithas y llynedd ar ôl i Bale a Ramsey gael tynnu eu llyniau yn gwisgo’r crys Team GB.

Dywedodd cyfarwyddwr cyfathrebu Cymdeithas Olympaidd Prydain Darryl Seibel:  “Mae hwn yn ymateb gwych ac yn cadarnhau fod ddiddordeb eang ymysg y chwaraewyr i chwarae dros Team GB yng ngemau Llundain 2012.

“Yn amlwg, mae’r chwaraewyr yn sylwi ei fod yn gyfle arbennig.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Ionawr 17, 2012 1:16 pm

Dim eisiau chwarae i Gymru , cofiwch. Un o’r arwyr lleiaf gwlatgarol a gafodd Gymru erioed.

§

Tommie Collins , Ionawr 18, 2012 9:01 am

Mae hyn yn warthus – ond yn nodweddiadol o’i gymeriad -

§| Nodi camddefnydd

Jones , Ionawr 18, 2012 11:21 am

Un cwestiwn o ni eisiau gofyn (tybio os yw rhywun yn gwybod yr ateb)?

Pam mai FA Lloegr sydd yn sgwenu i chwaraewyr fel Giggs a Ramsay? A nid ryw cynrychiolwyr o Team GB neu FA Cymru?….

§| Nodi camddefnydd

CGT , Ionawr 18, 2012 4:27 pm

Gan fod Cymdeithas Peldroed Cymru’n gwrthwynebu’r syniad,go brin y buasent yn gyfrifol am ofyn i’r chwareawyr. Tybiaf mai’r FA yw’r unig gorff sy’n awyddus i fod yn gyfrifol.
Cyfle i Aaron Ramsey, Gareth Bale a Joe Allen ymuno a rhestr hir o fradwyr Cymru ym myd peldroed . Yn anffodus, mae tim o fradwyr mewn crys coch yn mynd i fod yn fwy llwyddiannus na tim o wladgarwyr !

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.