Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Ymdrech ddewr gan Wrecsam

Ionawr 19, 2012 07:41


Andy Morrell
Roedd
Wrecsam yn haeddu ennill y gem yn erbyn Brighton neithiwr yn ol Huw Ifor, gohebydd CPD Wrecsam…

Fel cefnogwr Wrecsam roedd yn rhaid nodi rhywbeth am y gem heno. Dim stori manwl o holl ddigwyddiadau’r gem oherwydd mae rheini yn niwl yn fy mhen wedi’w chwyrlio o gwmpas gan swn y cae ras. Roedd perfformiad pob un o chwaraewyr Wrecsam heno yn anhygoel. Roedd naws y gem a’r dorf yn anhygoel.

Roedd gol Andy Morrell wedi rhediad cryf Danny Wright yn haeddu ennill unrhyw gem ac roedd Wrecsam yn sicr yn haeddu ennill y gem hon. Mae pel droed yn gem graelon, dyna pam mae hi’n gem sy’n ennyn cymaint o ddiddordeb mae’n debyg.

Mae fforwm cefnogwyr Brighton yn gytun eu bod wedi cael crasfa gan dim da iawn  a’u bod yn lwcus iawn. Rydw i fel cefnogwr yn eithriadol o hapus fy mod wedi cael y pleser o weld gem bythgofiadwy ac mae hynny i mi yn deimlad cryfach na’r siom o beidio cael wynebu Newcastle yn y cae ras.

Mae hi’n hwyr, af i’n ngwely heno yn breuddwydio bod cyfle Clarke, Morrell, Cizzy, Yr Anghenfil, Obeng neu Little wedi gorwedd yn destlys yng nghefn y rhwyd cyn deffro fory i realaeth ciciau o’r smotyn.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.