Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Talu iawndal am Coleman?

Ionawr 20, 2012 09:23


Mae cyn-glwb Chris Coleman wedi cyhoeddi eu bwriad i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi iddo gael ei benodi’n reolwr y tîm cenedlaethol ddoe.

Roedd Coleman wedi gadael clwb Larissa yng Ngwlad Groeg yr wythnos ddiwetha’, gan ddweud mai problemau ariannol y clwb oedd y rheswm dros ei ymadawiad.

Ond o fewn oriau i’w gadarnhad yn reolwr Cymru hyd nes diwedd y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014, sy’n gorffen fis Hydref 2013, roedd Larissa wedi gosod datganiad ar eu gwefan yn dweud bod Coleman yn parhau dan gontract gyda nhw.

“Rydym ni wedi cychwyn ar y broses gyfreithiol,” meddai llefarydd Larissa wrth y BBC, “er mwyn hawlio iawndal gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Rydym hefyd yn barod i fynd â’r mater at FIFA.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.