Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Bellamy i ymddeol o dîm Cymru?

Ionawr 31, 2012 16:00


Craig Bellamy
Mae Craig Bellamy wedi cyfaddef ei fod yn ystyried ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mae Bellamy wedi awgrymu mai gêm gofeb i Gary Speed, yn erbyn Costa Rica ar  29 Chwefror, fydd yr olaf.

“Dwi ddim yn gwybod os na’i chwarae wedi hynny i Gymru,” dywedodd Bellamy mewn cyfweliad gyda’r Daily Mirror. “Dwi’n meddwl ei bydd hi’n anodd i fi chwarae, oherwydd beth ddigwyddodd (i Garry Speed).

“Rwy’n paratoi ar gyfer y gêm Costa Rica, ac efallai hon fydd fy gêm olaf. Dwi ddim yn rhy siŵr… Mae yna lot o bobl dwi angen siarad â nhw.”

Colli Gary Speed

Soniodd am ei angerdd dros y tîm cenedlaethol, ac am ei deimladau tuag at ei gyn-reolwr.

“Mae Cymru wedi golygu popeth i fi. Dyma oedd uchafbwynt fy ngyrfa.

“Roeddwn i’n credu ynddo fe (Speed) cymaint fel rheolwr, ac yn credu ynddo fe cymaint fel person, roeddwn i wir yn meddwl ein bod ni’n mynd i Gwpan y Byd.”

Daeth gêm gyntaf Bellamy i Gymru yn erbyn Jamaica ym Mawrth 1998, pan oedd yn 18  oed. Mae e’n 32  oed erbyn hyn, ac wedi ennill 67 o gapiau i Gymru.

Roedd Bellamy wedi bygwth ymddeol y llynedd, ond fe lwyddodd Gary Speed  i ddwyn perswad arno i aros, gan arwain at rediad llwyddiannus i’r tîm cenedlaethol.

Enillodd Cymru bedair gêm allan o bump yn y gemau olaf cyn marwolaeth Gary Speed. Cafwyd hyd i’r cyn-reolwr yn crogi yn ei gartref ym mis Tachwedd y llynedd.

Coleman am ei gadw

“Rydym ni angen Craig Bellamy,” dywedodd y rheolwr newydd Chris Coleman rai wythnosau’n ôl.

“Nid yn unig am ei allu ond hefyd ei feddylfryd. Mae’n gallu fod yn waith caled ond mae e am i bethau gael eu gwneud yn iawn, ac ambell waith mae hynny’n gwthio pobl yn y cyfeiriad cywir. Rwy’n gobeithio y bydd e’n aros.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


CGT , Ionawr 31, 2012 5:41 pm

Rhyw Cymreictod go arwynebol yw Cymreictod peldroed sy’n diflannu mor sydyn. Tybed ai’r ffaith ei fod yn ol yn chwarae yn Lerpwl sydd wedi arwain at ei droedigaeth diweddaraf.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.