
Sinclair - Yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb
Abertawe 1–1 Chelsea
Mae record gartref wych Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn parhau wedi gêm gyfartal yn erbyn Chelsea ar y Liberty nos Fawrth. Dim ond un waith mae’r Elyrch wedi colli gartref trwy’r tymor ond bu bron i’r gêm gyfartal hon fod yn fuddugoliaeth.
Abertawe oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Scott Sinclair. Ond roedd Chelsea yn well wedi’r egwyl ac fe lwyddodd tîm Andre Villas-Boas i ddwyn pwynt yn yr eiliadau olaf er eu bod i lawr i ddeg dyn.
Daeth hanner cyfle cyntaf y gêm i Danny Graham wedi saith munud o chwarae pan ddisgynnodd y bêl iddo yn y cwrt chwech ond gwnaeth Branislav Ivanovic yn dda i atal yr ymosodwr.
A dylai’r Elyrch fod wedi mynd ar y blaen wedi 16 munud ond methodd Gylfi Sigurdsson a Graham gyfleoedd da. Roedd Petr Cech yn nhir neb ym mhell allan o’i gôl ond llwyddodd Ivanovic i rwystro ergyd Sigurdsson ar y llinell cyn i David Luiz wneud yr un peth pan ergydiodd Graham ar yr ail gynnig.
Abertawe oedd yn rheoli a daeth y gôl agoriadol haeddianol i’r Elyrch chwe munud cyn yr egwyl. Daeth y bêl i Scott Sinclair ar ochr y cwrt cosbi yn dilyn cic rydd o’r asgell dde a gwnaeth yr asgellwr yn dda i godi’r bêl dros bawb yn y cwrt cosbi i gefn y rhwyd.
Roedd Chelsea yn dipyn gwell wedi’r egwyl a daeth yr eilydd, Michael Essien, yn agos iawn gydag ergyd dda o bellter wedi 66 munud. Ond roedd y tri phwynt yn edrych yn sâff i dîm Brendan Rodgers bum munud o’r diwedd wedi i Ashley Cole gael ei anfon oddi ar y cae i’r ymwelwyr. Roedd yr amddiffynnwr wedi derbyn cerdyn melyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf a derbyniodd un arall am dacl hwyr ar Nathan Dyer yn hwyr yn yr ail.
Ond dwynodd y deg dyn bwynt wedi tri munud o amser anafiadau pan wyrodd croesiad Jose Bosingwa yn greulon oddi ar Neil Taylor gan guro Michel Vorm ar ei bostyn agosaf.
Yr Elyrch yn dod yn hynod agos at fuddugoliaeth gofiadwy arall felly ond ellir ddim cwyno gormod am gêm gyfartal yn erbyn y tîm sy’n bedwerydd yn y tabl. Mae Abertawe eu hunain ar y llaw arall yn disgyn un lle i’r trydydd safle ar ddeg gan i Everton guro Man City heno.