Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Pwynt Pwysig i Gaerdydd

Ionawr 31, 2012 23:35


Southampton 1–1 Caerdydd

Mae Caerdydd yn aros o fewn cyrraedd i frig y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Southampton. Ail yn erbyn trydydd oedd hi yn St Mary’s ac roedd gôl Craig Conway yn ddigon i roi mantais hanner amser i’r tîm o Gymru. Ond yn ôl y daeth Southampton wedi’r egwyl ac maent yn aros bwynt o flaen yr Adar Gleision yn y gynghrair ar ôl i Ricky Lambert unioni o’r smotyn i gipio pwynt.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda ac roedd yr ymosodwr, Ricky Lambert, yn llond llaw. Daeth yn agos gyda dau beniad, y naill wedi 12 munud a’r llall wedi hanner awr. Ac roedd yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn hefyd pan gafodd ei dynnu i’r llawr yn y cwrt cosbi ond nid felly y gwelodd y dyfarnwr hi.

A Chaerdydd sgoriodd y gôl agoriadol yn erbyn llif y chwarae ddeg munud cyn yr egwyl. Gwnaeth gôl-geidwad Southampton, Kelvin Davis, smonach o gic gornel Peter Wittingham ac roedd Craig Conway yn y lle iawn i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd o wyth llath.

Daeth Adam Lallana yn agos i Southampton ddwywaith tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ac yna eto yn gynnnar yn yr ail ond cadwodd yr Adar Gleision eu gafael ar y fantais am y tro.

Ond unionodd y tîm cartref toc cyn yr awr ac roedd Lallana yn ei chanol hi eto. Ei groesiad ef a darodd yn erbyn llaw Kevin McNaughton yn y cwrt cosbi cyn i’r dyfarnwr bwyntio at y smotyn. Cymerodd Lambert y gic gan ei tharo’n galed heibio i David Marshall yn y gôl i Gaerdydd.

Southampton oedd y tîm gorau yn awr a hwy oedd yn pwyso am y gôl fuddugol. Wedi dweud hynny, cafodd y tîm o Gymru ambell gyfle hwyr i ddychwelyd dros y bont gyda’r tri phwynt. Methodd Kenny Miller gyfle da ddeg munud cyn y diwedd pan ergydiodd dros y trawst  ac ergydio’n rhy uchel oedd hanes Aron Gunnarsson bum munud yn ddiweddarach hefyd.

Dim ond pwynt i Gaerdydd yn y diwedd felly ond pwynt da oddi cartref yn erbyn y tîm sy’n ail. Aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth mae’r Adar Gleision bwynt y tu ôl i Southampton yn yr ail safle. Ond mae’r ddau dîm yn cau’r bwlch ar West Ham ar y brig gan i’r Hammers gael cweir gan Ipswich heno.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.