Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Bale ar y brig – unwaith eto

Chwefror 1, 2012 07:52


Gareth Bale
Roedd Spurs a’r sylwebyddion yn canu clodydd y Cymro Gareth Bale unwaith eto ar ôl i’w ddwy gôl gadw’r tîm o Lundain yn y ras am yr Uwch Gynghrair.

Ond roedd yna gyfraniadau mawr gan Gymry eraill hefyd, wrth i bethau dynhau tua’r brig a gwaethygu i’r timau ar y gwaelod.

Os oedd rheolwr Spurs, Harry Redknapp, wedi awgrymu bod Bale bellach werth £130 miliwn, roedd sylwebyddion Match of the Day yn awgrymu dyblu’r swm ar ôl i’r Cymro sgorio  dwy gôl ardderchog i guro Wigan 3-1.

Gyda’r gynta’, fe redodd yn berffaith o’r dde i gwrdd â phas ardderchog gan Modric, ei rheoli a’i throi i mewn gyda foli ddeheuig.

Roedd yr ail yn well byth,  ac yntau heb fawr ddim lle ar ymyl chwith y bocs … hanner symudiad ac ergyd heb brin godi ei droed i’r gornel bella’.

Bellamy hefyd

Ac, wrth i’r dyfalu gynyddu y bydd Craig Bellamy yn rhoi’r gorau i chwarae i Gymru, fe orffennodd wythnos wych iddo ef a’i dîm Lerpwl wrth sgorio un o’u goliau wrth iddyn nhw guro Wolves 3-0 oddi cartre’.

Ar ôl y gêm, fe ddywedodd rheolwr Lerpwl, Kenny Dalglish, y byddai’n licio petai oed Craig Bellamy ffordd chwith, yn 23 yn lle 32.

Hon oedd ei nawfed gôl y tymor hwn ac yntau wedi chwarae rôl allweddol wrth i Lerpwl hefyd guro dau dîm Manceinion yn ystod y dyddiau diwetha’.

Er bod golwr Cymru Wayne Hennessey, rywfaint ar fai gyda gôl Bellamy, roedd unwaith eto’n gyfrifol am gyfres o arbediadau da ac roedd y chwaraewr canol cae, David Edwards, wedi mynd yn agos i Wolves.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.