
John Terry
Mae capten tîm pêl-droed Lloegr, John Terry, wedi gwadu iddo wneud sylwadau hiliol yn erbyn Anton Ferdinand.
Bydd John Terry nawr yn mynd o flaen ei well, clywodd y llys heddiw.
Doedd y chwaraewr ddim yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon San Steffan yn Llundain heddiw, ond roedd ei fargyfreithiwr wedi pledio’n ddieuog ar ei ran.
Mae Terry wedi ei gyhuddo o drosedd yn erbyn y drefn cyhoeddus. Honnir fod deunydd fideo yn ei ddangos yn gweiddi sylwadau hiliol at chwaraewr Queen’s Park Rangers Anton Ferdinand, yn ystod gêm gynghrair rhwng Chelsea a QPR ym mis Hydref y llynedd.