Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Cyfnod prysur a chyffrous i Wrecsam

Chwefror 1, 2012 14:05


Curtis Obeng
Mwy o chwaraewyr a mwy o arian yn y banc, yn ol gohebydd CPD Wrecsam Huw Ifor

Mae mis Ionawr wedi bod yn fis prysur iawn tu ôl i’r lleni yn y cae ras. Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (YCW) wedi penodi  Don Bircham yn gyfarwyddwr masnachol. Mae hyn yn hanfodol  wrth edrych am ennill arian yn y dyfodol.

Roedd gan yr hen berchnogion gyfarwyddwr marchnata ar gyflog mawr ond tra roedd o yn ei swydd doedd Wrecsam yn gwneud dim arian o hysbysebion stadiwm, cae na crys. Bydd datrys y pethau hyn i gyd yn dod a chyfran fawr o’r arian sydd ei angen i fod yn gynaladwy.

Gwerthwyd Lee Fowler i Fleetwood. Doedd o ddim eisiau aros, doedd o ddim yn y tîm ac roedd yn anhapus. Mewn tîm lle mae’r ysbryd mor bwysig roedd yn hanfodol iddo fynd cyn iddo effeithio’r ystafell newid.

Daeth Lerpwl i mewn ac arwyddo ein golwr ifanc Danny Ward. Bydd Lerpwl yn talu £100,000 a wedyn bydd Wrecsam yn derbyn arian os bydd Ward yn chwarae i Gymru, neu Lerpwl. Yr unig gemau a gafodd i ni oedd yn nhlws yr FA a Chwpan Cymru felly mae gweld bod clybiau mawr yn talu sylw o’n chwaraewyr ifanc ni yn galonogol.

Abertawe

Anaml iawn y mae chwaraewyr yn symud o’r gyngres i’r uwchgynghrair. Ddoe fe werthodd Wrecsam eu hail chwaraewr i’r uwchgynghrair. Arwyddodd Curtis Obeng i Abertawe – mae Abertawe yn y gorffennol wedi mynd a Steve Watkin, Dennis Lawrence, Lee Trundle, Neil Taylor oddi wrthym felly mae’r ddau dim wedi arfer gwneud busnes efo’u gilydd. Y tro  yma fe gawsom £200,000 gyda mwy i ddod wedi iddo chwarae gemau i Abertawe neu Loegr.

Mae nhw wedi anfon Danny Alfei i chwarae i ni tan ddiwedd y tymor. Mae Danny yn gapten tîm dan 21 Cymru ac felly yn chwaraewr da i lenwi’r bwlch.

Mae Wrecsam hefyd wedi  arwyddo’r Albanwr Steven Leslie sydd yn asgellwr talentog a Rob Ogelby sydd yn ymosodwr i Gymru o dan 21. Felly mae gennym un chwaraewr yn fwy yn y gynghrair, un Cymro yn fwy, llawer mwy o arian yn y banc, potensial i gael mwy o arian yn dibynnu ar berfformiad ein chwaraewyr, a llai o gyflog i’w dalu.

Rwyf yn hapus iawn ein bod wedi cadw asgwrn cefn y tîm oherwydd yr oedd cynigion am Creighton, Keates a Knight Percival ond bydd y tri gyda ni i fynd a ni i’r gynghrair yn yr haf, gobeithio

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.