Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Cyfle i’r Gleision nythu ar y brig

Chwefror 3, 2012 12:38


Dim ond triphwynt sy’n gwahanu West Ham, Southampton a Chaerdydd ar frig y Bencampwriaeth.

Wedi cipio pwynt nos Fawrth ddiwethaf yn erbyn Southampton, bydd Caerdydd yn croesawu Blackpool i Stadiwm Caerdydd yfory.

Mae Blackpool yn y seithfed safle ac heb golli gêm hyd yma eleni.

Effallai bydd Capten yr Adar Gleision yn dychwelyd i’r tîm yfory, wedi colli’r ddwy gêm ddiwethaf sef y fuddugoliaeth dros Crystal Palace a’r gêm gyfartal yn erbyn Southampton oherwydd anaf i’w goes.

Fodd bynnag, bydd rhaid i Mark Hudson ddisodli Ben Turner neu Anthony Gerrard o’i safleoedd – mae’r ddau wedi bod yn rhagorol yn ei absenoldeb.

Mae Kevin McNaughton yn debygol o gadw ei le yn yr amddiffyn ar ôl dechrau o flaen Darcy Blake yn erbyn y Seintiau yng nghanol yr wythnos, tra bod y ddau ymosodwyr Joe Mason a Rudy Gestede yn obeithiol o gadw eu lle hefyd.

Gyda buddugoliaeth yfory, gallai’r Adar Gleision nythu ar frig y Bencampwriaeth, pe bai canlyniadau yn mynd o’u plaid mewn gemau eraill.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.