Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Giggs: blwyddyn arall i Man U

Chwefror 10, 2012 12:54


Ryan Giggs
Heddiw fe gadarnhaodd Manchester United bod Ryan Giggs wedi arwyddo cytundeb i chwarae iddyn nhw am dymor arall.

Mae’r Cymro 38 oed yn chwarae iddyn nhw ers mis Mawrth 1991.

Yn ystod gyrfa hirfaith mae Giggs wedi chwarae 898 o weithiau i’r clwb, gan sgorio 162 o goliau ac ennill 12 o deitlau Uwch Gynghriar Lloegr, pedair Cwpan FA, tair Cwpan Cynghrair a dau dlws Cyngrhair Pencampwyr Ewrop.

‘‘Mewn nifer o ffyrdd mae Ryan wedi cynrychioli fy holl dimau yma,” meddai Alex Ferguson, rheolwr Man U.

“Mae wedi ail-ddyfeisio ei hun ac wedi addasu i natur y gêm yn ogystal â chadw bob awydd i lwyddo.

‘‘Gall y chwaraewyr ifanc ddysgu llawer wrtho, a fydd yn chwaraewr fydd yn parhau i dorri records yn y gêm yma,’’ ychwanegodd.

Ac mae Giggs, sy’ wedi dod yn enwog yn ddiweddar am gael affêr efo’r seren seleb Imogen Thomas yn ogystal â gwraig ei frawd bach, ar ben ei ddigon.

‘‘Pan arwyddais fy nghytundeb cyntaf, nid oeddwn yn meddwl am eiliad y byddwn yn parhau i chwarae i United am 22 o flynyddoedd.  Ond rwy’n teimlo’n dda ac yn gwybod y gallaf barhau i gyfrannu tuag at y clwb wrth geisio am anrhydeddau bellach,’’ meddai Giggs.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.