Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Y Dreigiau ar Dân

Chwefror 18, 2012 19:28


Pogba - Sgoriwr y bedwaredd (llun o wefan y clwb)
Wrecsam 4–1 Hayes a Yeading

Sgoriodd Wrecsam bedair gôl i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Hayes a Yeading yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn. Roedd goliau Jake Speight a Mark Creighton yn yr hanner cyntaf a goliau Jay Harris a Mathias Pogba wedi’r egwyl yn hen ddigon i’r tîm cartref gipio’r tri phwynt ar y Cae Ras.

Gwnaeth Speight yn wych i guro tri dyn cyn rhwydo’r gyntaf wedi chwarter awr o chwarae cyn i waith da Adrian Cieslewicz greu’r ail gôl i Creighton funud cyn yr egwyl.

Cafodd Daniel Wishart gyfle cynnar i’r ymwelwyr yn yr ail hanner ond roedd Joslain Mayebi yn effro yn y gôl i Wrecsam.

Yna, sicrhawyd y tri phwynt i’r tîm cartref toc cyn yr awr pan rwydodd Harris o ochr y cwrt cosbi ar ôl derbyn y bêl gan Joe Clarke.

Roedd hi’n bedair gydag ychydig dros chwarter awr yn weddill wedi i bedwerydd sgoriwr gwahanol daro cefn y rhwyd i Wrecsam. Pogba oedd y sgoriwr y tro hwn wedi i ymdrech wreiddiol Speight gael ei hatal.

Bu bron i Harris ychwanegu pumed ar ddau achlysur yn y chwarter awr olaf ond arbedodd Carl Pentney y ddau gynnig. Hayes yn hytrach a sgoriodd gôl olaf y gêm a hynny ddau funud o’r diwedd pan gipiodd Michael Thalassitis gôl gysur i’r ymwelwyr.

Aros yn yr ail safle yn nhabl y Blue Square y mae Wrecsam er gwaethaf y fuddugoliaeth gan i Fleetwood guro hefyd gartref yn erbyn Caergrawnt. Mae’r Dreigiau ddau bwynt y tu ôl i’r tîm ar y brig gydag un gêm wrth gefn.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.