
Casnewydd 1–0 Mansfield
Mae Casnewydd wedi codi i’r ail safle ar bymtheg yn Uwch Gynghrair y Blue Square diolch i ail fuddugoliaeth mewn pum diwrnod. Roedd gôl Sam Foley yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r tîm cartref ar Barc Sbyty brynhawn Sadwrn yn dilyn buddugoliaeth gartref ganol wythnos yn erbyn Caerfaddon.
Gwastraffodd Foley ddau gyfle yn y deg munud agoriadol a bu rhaid i gôl-geidwad Mansfield, Alan Marriott arbed ymdrech Elliott Buchanan hanner ffordd trwy’r hanner wrth i Gasnewydd reoli’r gêm.
Daeth yr unig gôl wedi 33 munud pan ddaeth Lee Minshull o hyd i Foley yn y cwrt cosbi cyn iddo yntau guro Marriott.
Cafodd Nat Jarvis gyfle i ddyblu mantais y Cymry yn gynnar yn yr ail hanner ond arbedodd Marriott a gwnaeth Glyn Thompson yn dda yn y pen arall i atal Matthew Green.
Methodd Jarvis ddau gyfle arall yn y chwarter olaf ond roedd yr un gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Gasnewydd.
Mae’r tri phwynt hwnnw yn eu codi uwch ben Lincon i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl y Blue Square ac mae’r tîm o Gymru bellach bum pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.