Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Verheijen yn corddi’r dyfroedd ar Twitter

Chwefror 21, 2012 08:35


Raymond Verheijen
Mae Ray Verheijen, oedd yn gobeithio olynu Gary Speed fel rheolwr Cymru, wedi bod yn corddi’r dyfroedd ar Twitter.

Mae  Verheijen wedi beirniadu Cymdeithas Bêl-droed Cymru am beidio gadael iddo wybod mai ef fyddai’n rheoli’r tîm yn ystod gêm goffa Gary Speed wythnos nesaf.

Dywedodd: “Ges i syrpreis mawr i glywed gan newyddiadurwyr mai fi fydd yn rheoli’r tîm yn ystod gêm Cymru yn erbyn Costa Rica wythnos nesaf. Does neb o’r FAW wedi gadael i fi wybod am hyn,” meddai Verheijen ar Twitter neithiwr.

Yn dilyn hynny, trydarodd eto: “Newydd glywed fod Rheolwr Gweithredol y Tîm Adrian Davies wedi ei ddiswyddo a fydd e ddim gyda’r tîm yng Ngêm Goffa ei ffrind Gary Speed.”

Chris Coleman a Dutch Ray

Roedd Chris Coleman, rheolwr newydd tîm Cymru, wedi dweud wrth y BBC ar ddechrau’r mis ei fod yn chwilio am ffyrdd o gadw Raymond ‘Dutch Ray’ Verheijen yn rhan o’i dîm hyfforddi.

Bu cyfarfod rhwng y ddau ar ddechrau’r mis, yn dilyn tensiwn rhwng y ddau ar ôl i Verheijen ddweud ei fod ef yn awyddus i olynu Gary Speed.

Bu Verheijen mewn trafferth yn dilyn ei sylwadau ar Twitter ym mis Rhagfyr y llynedd wedi iddo drydar  fod Gary Speed wedi dweud wrtho ei fod am iddo fe barhau gyda gwaith y cyn reolwr, ac arwain tîm Cymru.

Bu farw Gary Speed, 42 oed,  ym mis Tachwedd y llynedd.

Fe fydd Cymru yn chwarae Costa Rica mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd,  nos Fercher, Chwefror 29.

Costa Rica oedd y tîm cyntaf i Gary Speed chwarae yn eu herbyn dros Gymru, yn Mai 1990. Enillodd Cymru 1-0.

Bydd y gêm yn cychwyn am 7.45pm.

Mae tocynnau ar gael ar www.cardiffcityfc.co.uk.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.