Cynyddu maint testun

Golwg360

Chwaraeon



Hartson yn cefnu ar Twitter

Chwefror 21, 2012 08:47, Diweddarwyd am 10:21


John Hartson
Mae John Hartson wedi datgan ei fod yn mynd i gau ei gyfrif Twitter.

Dywedodd fod ganddo “resymau personol” am wneud hynny.

“Rwy’n flin i fy holl ddilynwyr dilys ond bydda i yn dod bant o Twitter yn y 48 awr nesaf. Mae da fi resymau fy hunan am wneud hyn.”

Bu Hartson yn drydarwr o fri, ac mae’n gymeriad poblogaidd iawn.

Dywedodd John Hartson wrth Golwg360 bore ma nad oedd am wneud sylw pellach ar y mater.

Daw ei benderfyniad yn sgil pryderon am broblemau sy’n gysylltiedig gyda gwefannau rhyngweithio cymdeithasol.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.