Colli 44-29 a wnaeth y Gleision yn eu gêm Cwpan Heineken yng Nghaerwysg y prynhawn yma.

Er iddyn nhw ennill pwynt bonws yn yr ail hanner, roedd y Gleision wedi ei gadael hi’n rhy hwyr ar ôl cael eu chwalu’n llwyr yn yr hanner cyntaf.

Roedd Caerwysg 36-3 ar y blaen erbyn hanner amser, ar ôl sgorio pum cais yn yr hanner cyntaf – gan gynnwys tri o fewn pum munud i’w gilydd.

Dechreuodd y Gleision daro’n ôl yn yr ail hanner, er i Ian Whitten sgorio chweched cais Caerwysg cyn iddyn nhw gael unrhyw lwyddiant.

Pedwar cais y Gleision

O’r diwedd, fe wnaeth Lloyd Williams sgorio cais 25 munud cyn y diwedd, gyda chais arall gan Robert Copeland yn fuan wedyn. Cafodd y ddau gais eu trosi gan Leigh Halfpenny.

Ar yr awr, roedd Caerwysg i lawr i 13 o ddynion am gyfnod wrth i ddau gael eu hanfon i’r cwrt cosbi.

Ar ôl cais arall i’r Gleision, y tro hwn gan Alex Cuthbert, llwyddodd yr ymwelwyr i sicrhau eu pwynt bonws gyda’u pedwerydd cais, gan Harry Robinson, a gafodd ei drosi gan Halfpenny.

Gyda Chaerwysg yn amddiffyn mantais o 41-29 ym munudau ola’r gêm, fe wnaeth cic gosb arall gan Henry Slade selio tynged y Gleision.