Sam Warburton yn dechrau ddydd Sadwrn
Bydd Sam Warburton a Gethin Jenkins yn dychwelyd i dîm Cymru i wynebu Iwerddon brynhawn Sadwrn ar ôl dychwelyd o anafiadau.

Ond does dim lle o gwbl i Jonathan Davies, a ddychwelodd o anaf i chwarae hanner gêm dros y Scarlets y penwythnos diwethaf.

Dyw’r clo Luke Charteris, a ddechreuodd yn erbyn yr Eidal, ddim ar gael oherwydd anaf i linyn y gâr.

Mae Rhys Priestland yn cadw’r crys rhif 10 ar ôl ei berfformiad yn erbyn yr Eidal, gyda Dan Biggar eto ddim yn cael ei ddewis yn y 23.

Mae Andrew Coombs hefyd wedi cael ei ddewis yn lle Charteris yn yr ail reng, tra bod Rhodri Jones a Jake Ball wedi’u henwi ar y fainc ar gyfer y trip i Ddulyn.

Bydd y prop Paul James yn ennill ei 50fed cap os ddaw oddi ar fainc, gyda Ball yn ennill ei gap cyntaf os daw i’r maes.

Gatland eisiau gwella

Bydd y ddau dîm yn gobeithio am eu hail fuddugoliaeth o’r Chwe Gwlad ar ôl dechrau’r gystadleuaeth wrth ennill gartref, Cymru’n trechu’r Eidal 23-15 ac Iwerddon yn maeddu’r Alban 28-6.

Ac fe ddywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland ei fod yn gobeithio y gall y tîm wella o’u perfformiad cyntaf yn y bencampwriaeth.

“Mae’n wych gweld Sam a Gethin yn ôl yn y tîm ac mae’n gyfle da i Andrew Coombs ddechrau hefyd,” meddai Gatland.

“Roedd y penwythnos diwethaf yn her dda am nifer o resymau, ond rydyn ni dal eisiau gweithio ar rai pethau ac yn gwybod pa mor bwysig yw’r gêm hon.

“Dydyn ni heb golli gêm i ffwrdd o gartref yn y Chwe Gwlad ers 2011 ac mae’n rhaid i ni gael yr hyder yna y gallwn ni wneud hynny eto’r penwythnos yma.

“Mae’n mynd i fod yn anodd, fe enillodd y ddau dîm eu gemau cyntaf ac fe fydd yn rhaid i ni fod yn gorfforol yn eu herbyn. Rydyn ni’n teimlo yn y rhan fwyaf o bencampwriaethau fel ein bod ni’n cryfhau  fel mae’n mynd yn ei flaen ac mae angen i hynny fod yn wir y penwythnos yma.”

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Jamie Roberts (Racing Metro), Scott Williams (Scarlets), George North (Northampton), Rhys Priestland (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton – capten (Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau)

Eilyddion: Rhodri Jones (Scarlets), Paul James (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gleision), James Hook (Perpignan), Liam Williams (Scarlets)