Mae’r Newcastle Falcons wedi ail-arwyddo’r mewnwr Warren Fury ar gytundeb dwy flynedd.

Roedd y mewnwr 28 oed y rhan o daith Cymru i Dde Affrica yn 2008 ac yn rhan o garfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009.

Mae Fury bellach wedi gwneud 44 o ymddangosiadau i’r Falcons ac wedi bod yn rhan allweddol o gynlluniau’r tîm.

Y tymor nesaf bydd Fury yn cystadlu ymhlith y chwaraewyr dawnus Ruki Tipuna o Fryste a’r Albanwr Mike Blair am safle’r mewnwr.

‘Hynod o falch’

‘‘Rwy’n hynod o falch i fod yn rhan o’r garfan yma. Rwyf yn edrych ymlaen at yr her i sicrhau crys rhif 9 y tymr nesa’,” meddai Fury.

“Mae’r Gogledd Ddwyrain yn frwdfrydig tu hwnt am eu chwaraeon a gallaf deimlo’rangerdd y cefnogwyr ym Mharc Kingston.”

Gair gan y bos

‘‘Mae Warren yn unigolyn benderfynol ac yn gwneud ei orau glas pob tro. Yn ogystal â chwaraewr, mae’n berson hoffus ac rwy’n hynod o falch ei fod wedi ailarwyddo gyda’r clwb,’’ meddai Dean Richards, Cyfarwyddwr Rygbi Newcastle Falcons.