Warren Gatland
Bydd Cymru yn cynnal y gêm treial gyntaf mewn 14 mlynedd ar 30 Mai gyda’r tîm sydd yn debygol o gael eu dewis yn erbyn y tîm sydd â chyfle i sicrhau ei sedd ar yr awyren wrth iddynt baratoi ar gyfer De Affrica.

Bydd hyfforddwyr cynorthwyol Cymru Robert Howley a Robin McBryde yn arwain y ddau dîm ac yn cyhoeddi eu carfannau Dydd Mawrth.

Yn nhîm cynorthwyo Howley mi fydd Shaun Edwards a hyfforddwr y blaenwyr i’r Scarlets, Danny Wilson.  Neil Jenkins a Dale McIntosh o’r Gleision fydd yn ymuno a Robin McBryde.  Ar ôl y treial mi fydd hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn cyhoeddi ei dîm.

‘‘Mae’n wych ein bod yn gallu atgyfodi treial enwog Cymru.  Mi fydd y treial yma yn bwsig i’r chwaraewyr ac yn sicr i ni fel tîm hyfforddi.  Bydd y prawf yn ein galluogi i weithio gyda’r garfan estynedig ac yn gyfle i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd,’’ meddai Gatland.

‘‘Mi fydd y daith yn un anodd, ni fydd rhan fwyaf o’r garfan wedi chwarae ers pedair neu pum wythnos felly mae’n bwysig i barhau a’r chwarae,’’ ychwanegodd Gatland.